Tudalen:Traethawd bywgraffyddol a beirniadol ar fywyd ac athrylith Lewis Morris.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

uchod, mae yn anhawdd gwybod pa un sydd i'w edmygu fwyaf gwladgarwch a haelioni y dyn, ai ynte tlysni a phurdeb arddull yr ysgrifenydd; a gwyn ei fyd nad ellid darbwyllo llenorion yr oes bresennol i efelychu nid yn unig ei wladgarwch ond hefyd ei arddull Gymroaidd Dywedai un awdwr, os dymunai dyn' gyrhaedd adnabyddiaeth drylwyr o'r iaith Seisonig ei bod yn angenrheidiol iddo roddi ei ddyddiau a'i nosweithiau i ddarllen y Spectator. Gallwn ninnau ddywedyd yr un peth wrth ysgrifenwyr Cymreig o barth gwaith Lewis Morris, hyny ydyw, can belled ag y cyrhaedda y cyfryw. Ond yr anffawd fawr ydyw mai ychydig a phrinion iawn ydyw yr ysgrifau a adawodd efe ar ei ol; ond mae yr hyn a ddiogelwyd yn werth eu meddu, ac yn gyfryw nas gallant lai na pheri i ni fawr awyddu na buasent yn ychwaneg.

Nid ymddengys iddo yn ystod ei arosiad yng Nghaergybi ymwneyd nemawr a llenyddiaeth a barddoniaeth, o'r hyn lleiaf ni ddiogelwyd braidd ddim o ffrwyth ei lafur am yr ysbaid hwnw. Yr ydoedd wedi cyfansoddi amryw ddarnau barddonol yn ei ieuenctyd ar destynau hynod ddichwaeth a llygredig, am y rhai ni raid i ni ofidio fyned o honynt i ebargofiant; ac yn wir gellid gyda mantais i foesoldeb hebgor amryw o'r cyfansoddiadau hyny o'i eiddo a gyhoeddwyd yn y Dyddanwch Teuluaidd. Dichon fod gofalon teuluol a Iluosogrwydd ei orchwylion ereill yn cymmeryd i fyny bron y cyfan o'i amser, fel nad oedd ganddo nemawr yn weddill at lenyddu a barddoni. Ond o dan y cyfryw amgylchiadau mae yn syndod iddo wneuthur cymmaint pan yr ystyriom amrywiaeth mawr ei efrydiau; o blegid yn ychwanegol at ei waith yn casglu ac adysgrifio hen ysgriflyfrau, yr hyn a gymmerai i fyny gymmaint o'i amser, yr ydoedd hefyd yn meddu gwybodaeth helaeth o lysieuaeth a physigwriaeth, a mynych y profodd ei hun yn feddyg rhagorol i'r tlodion clwyfus a gyrchent ato am gynghor neu feddyginiaeth. Ond dichon nas gallwn roddi gwell crynodeb o natur ac amrywiaeth ei orchwylion na'r hyn a rydd efe ei hun yn y llythyr canlynol a ddanfonodd at Mr. Pegge, i'r Drewen, dyddiedig Chwefror 11, 1761:—

"Am yr ychydig wybodaeth a gyrhaeddais i, bu raid i mi ei hennill megys trwy awchnaturiaeth. Nid oedd fy addysg ieithyddol ond afreolaidd; a choed masarn ac onen, neu fath o feistri pren, ar y goreu, oedd fy athrawon gan mwyaf. Y mae'r cynnydd a wnaethym y ffordd hòno wedi adfeilio llawer o eisieu ymarferiad ac ymohebiaeth â gwŷr o ddysg. Cymmerodd helyntion gwladwriaethol, fel swyddog yn y gyllidaeth, y rhan werthfawrocaf o'm hamser, fel y mae yn rhyfedd genyf i mi allu cadw dim mewn cof. Dodwyd fi ar y cyntaf i gasglu cyllid a threth yr halen; yna gosododd y Morlys fi i wneyd mesuriad arolygol o arfordiroedd Cymru, a chyhoeddwyd rhan fechan o'm llafur ar hyny yn 1748. Dodwyd fi wedi hyny at wahanol orchwylion perthynol i'r Trysorlys, yr hyn a gymmerodd fy amser am rai blynyddoedd, fel arolygydd tir-gyllid y brenin, casglydd porth-dollau yn Aberteifi, ac arolygydd mwn-weithiau y brenin yng Nghymru. Y mae'r iaith Seisonig mor estronol i mi ag ydyw'r Ffrancaeg; y mae genym ni blwyfi cyfan ym mharthau mynyddig Cymru lle na siaradir gair o Seisoneg o gwbl. Y mae'r ychydig wybodaeth a fu genyf o ieithoedd ereill wedi myned yn rhydlyd, ac nis tybiaf fod yn wiw i mi bellach geisio eu hadferu, gan fod un troed i mi yn y bedd. Ysbeiliwyd llawer o'm hamser gynt gan gerddoriaeth a phrydyddiaeth, o'r hyn nid oes i mi elw yn y byd. Ond weithiau nid wyf mewn un swydd gyhoedd, oddigerth arolygu mwn-weithiau y brenin, a hyny heb ddim cyflog; ac wedi cweryla â rhai o'm blaenoriaid, mi a ymneill-