Tudalen:Traethawd bywgraffyddol a beirniadol ar fywyd ac athrylith Lewis Morris.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

duais i dyddyn bychan o'm heiddo fy hun, ac yno y mae fy ngardd, fy mherllan, fy nhyddyn, ac ychydig o fwn-waith yn cymmeryd rhan fawr o'm hamser. Ond yr hyn sydd wedi cymmeryd mwyaf o'm bryd er ys cryn ysbaid bellach yw gwneyd ychwanegiadau at Eiriadur Cymreig a Lladin y Dr. Davies, a geiriadur arall hefyd o'm gwaith fy hun yn gwbl, ar ddull Mareni. Treuliodd yr amean yma fy oriau hamddenol er ys llawer blwyddyn faith. Yr enw a roddaf arno yw Celtic Remains, neu ddysgrifiad o'r hen ymherodraeth Geltaidd, yn yr iaith Seisonig, yn cynnwys cynnulliad o ddefnyddiau bywgraffyddol, beirniadol, hanesyddol, geiryddol, amseryddol, a daiaryddol, o ddeilliad Celtaidd, er ffurfio hanes Frytanaidd o'r cynoesoedd; yn ddwy ran y cyntaf yn cynnwys hen enwau dynion, lleoedd, gweithredoedd, a'r cyffelyb, yn y Frytanaeg a'r Gaeleg, yn ol trefn yr egwyddor; lle y chwilir i mewn nid yn unig i wir enwau Celtaidd, yn ol yr orgraff hen a diweddar, gan eu profi o awduron Brytanaidd, yng nghyd ag enwau presennol lleoedd, a'r cyffelyb, ond hefyd i'r camgymmeriadau a'r gwallau, pa un bynag ai o ddymuniad ai o ddamwain, a wnaed gan ysgrifenwyr a draethasant ar hen helyntion Prydain mewn unrhyw iaith, gan eu diwygio a'u hegluro. Gorchwyl dirfawr a llafurus yw hwn. Yr ail ran a gynnwys enwau dynion a lleoedd o darddiad Celtaidd, wedi eu Lladineiddio gan ysgrifenwyr Lladinaidd, y rhai a ystumiwyd ac a nyddwyd yn ol eu hiaith hwy; lle yr ymdrechir dangos yr hyn oeddynt yn y dechreuad Celtaidd, gan eu cymharu â hen hanes ac iaith prif gangenau'y bobl hyny y Frytanaeg, y Wyddelaeg, yr Armoraeg,[1] a'r Gernywaeg. Geiryddol ydyw y rhan hon gan mwyaf, lle y caiff mympwy ei rhaff, ond nid heb ei chadw oreu y gellir o fewn terfynau.

"Yng nghylch ugain mlynedd yn ol prydyddiaeth Gymreig oedd yn nofio uwch law fy holl drysorau, er ei bod weithiau yn mawr iselu; a byth er pan wnaethym ryw gampwri yn y ffordd hono, nid oes dim a wna'r tro gan fy nghydwladwyr os na roddaf gymmeradwyaeth i'w cyfansoddiadau cyn eu gyru i'r byd. Ond, och finnau, mor isel yr ydym wedi cwympo oddi wrth enwogrwydd yr hynafiaid. Mi hoffwn o'm calon i ryw un galluog gymmeryd arno'r gorchwyl o wneyd cyfieithad Lladin o rai o'n hen brydyddion Brytanaidd. Yr wyf yn addef i chwi, er mai Cymraeg yw fy mam-iaith, ac er cael o honof fy magu ym Mon, lle y şiaradir hi mewn mawr burdeb, ac yr hoffir hi gan y trigolion, lle hefyd y mae prydyddiaeth a hynafiaethau mewn mawr gymmeradwyaeth; eto, yr wyf yn dysgu rhyw beth yn feunyddiol wrth ddarllen yr hen feirdd, ar ol bod yn gydnabyddus â hwy er ys yn agos i ddeng mlynedd a deugain. Am y cyfieithad o Tyssilio, chwi a welwch wrth y gwaith a dorais allan i mi fy hun, pa fodd yr wyf yn sefyll. Y mae yn debyg na byddaf byw i orphen yr un o'r pethau hyny; ac ofnaf na fydd gan fy mhlant yr un awyddfryd angerddol ag sydd genyf fi at y fath fyfyrdodau, ac ni welaf ond ychydig o rai ereill yn meddu na'r tueddfryd na'r defnyddiau i gyflawnu y cyfryw orchwyl."

Yn y flwyddyn 1737, penodwyd ef gan arglwyddi y Morlys i arolygu, mesur, a darlunio porthladdoedd ac arfordiroedd Cymru. Cyflawnodd y gorchwyl llafurfawr hwn gyda dyfalwch a medrusrwydd anghyffredin, a chyhoeddwyd ffrwyth ei lafur yn y flwyddyn 1748, dan y teitl, "Plans of Harbours, Bars, Bays, and Roads in St. George's Channel." Cynnwysa y llyfr hwn dros ugain o ddarlunleni, yn dangos ansawdd amrywiol aberoedd, porthladdoedd, &c., perthynol i Gymru; ac ennillodd i'w awdwr glod ac anrhydedd parhäus, o blegid ni chyfrifir y dydd heddyw odid un

  1. Llydaweg