Tudalen:Traethawd bywgraffyddol a beirniadol ar fywyd ac athrylith Lewis Morris.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llyfr mwy cywir a buddiol i'r morwr sydd yn arfer mordwyo ar gyfer arfordiroedd Cymru (yn y Môr Udd) nag ydyw'r llyfr a grybwyllwyd o waith Mr. Lewis Morris. Er mwyn rhoddi rhyw feddylddrych i'r darllenydd o natur y gwaith a'r llafur mawr oedd yn angenrheidiol i gasglu yng nghyd y swm dirfawr o ffeithiau a gynnwysa, cymmerwn ryddid i ddyfynu a ganlyn allan o ragymadrodd y llyfr:—"Yr athrist hanesion am longddrylliadau a cholledion yn dygwydd mor fynych ar dueddau Cymru, y rhai yn ddiau a achlysurwyd yn benaf o blegid diffyg gwybodaeth, ac ammherffeithrwydd y darluniadau a roddwyd o'r pethau hyny, a gymhellodd gyfarwyddwyr y Morlys i gymmeryd yr unrhyw dan eu hystyriaeth, ac i benderfynu ar fod i arolygiad mesurol gael ei gymmeryd mewn llaw; ac yn y flwyddyn 1737 rhyngodd bodd iddynt fy mhenodi i at y gorchwyl, a dechreuais arno wrth y Penmawr Mawr, yng Ngwynedd, ger llaw bar Caerlleon. Ar ol cyflwyno gorchwyl blwyddyn, archwyd i mi fyned rhagof; ond gan na ddarparesid y cyfreidiau a'r defnyddiau angenrheidiol i'r perwyl, gohiriwyd y gwaith hyd y Blwyddyn 1742. Y pryd hwnw caniataodd y cyfarwyddwyr i mi lestr wedi ei ddarparu yn gyfrdo; a thrwy y moddion hyn aethym â'r gwaith ym mlaen gyda gofal a manylrwydd mawr, hyd nes cyrhaedd y mynediad i Fôr Hafren; ond yn y flwyddyn 1744, torodd y rhyfel allan rhwng y deyrnas hon a Ffrainc, a llesteiriwyd y gwaith; a minnau a orphenais fy nharlunleni, ac a gyflwynais fy arolygiad i'r Morlys. Y darluniadau o'r porthladdoedd, &c., ag sydd yn awr wedi eu cerfio, ac yn cael eu gosod allan yn y traethawd hwn, a ffurfiwyd yn y dechreu mewn llyfryn bychan a wnaethym i'm gwasaeth fy hun, er mwyn cynnorthwyo fy nghof, pan ddygwyddai tymmestledd neu ryw anffawd ddisymmwth a allai ddygwydd yn ystod y gwaith. Ond dygwyddodd i mi ddangos y gwaith hwn i arglwyddi y Morlys, a rhyngodd bodd iddynt ei gymmeradwyo, gan annog fod iddo gael ei gyhoeddi er budd i forwyr, yng nghyd â rhai crybwylliadau a wnaethym yn mherthynas i'r gwelliantau a ellid ei wneuthur yn y porthladdoedd hyny, gan na thybid yn addas cyhoeddi yr arolygiad o'r holl arfordir nes myned â'r gorchwyl ym mlaen hyd at Bentir Cernyw, sef gorphen hyd yno o Fôr Hafren. Gallaf anturio honi fod un peth anarferol yn y darluniadau hyn nas ceir mewn nemawr, os mewn un o'r lleill; hyny yw, fod enwau y lleoedd wedi eu gosod i lawr yn ol en gwir orgraff, yr hyn, mewn darlunleni ereill o'r arfordiroedd hyn, sydd yn gyffredinol yn cael ei wneuthur yn y fath fodd, fel na chlywodd trigolion y lleoedd hyny erioed son am danynt, ac nad ydynt gan mwyaf amgen na ffug-ddyfeisiau cyfreithwyr anwybodus, a cherfwyr esgeulus; eithr yr oedd fy adnabyddiaeth o iaith a hynafiaeth y Brytaniaid yn rhoddi mantais i mi yn hyn." Cyhoeddwyd ail argraffiad o'r gwaith hwn gan ei fab William Morris, yng nghyd â map o Fon ganddo ei hun, yr hwn oedd ar raddeg ddigon eang i gynnwys pob ty yn yr ynys. Ysgrifenodd L. Morris hefyd ddarluniad hanesyddol o fwnyddiaeth y parthau hyny o'r Dywysogaeth ag oedd dan ei sylw, ond fel Iluaws ereill o'i weithiau ni chyhoeddwyd byth mo'r gwaith hwnw.

Gadawodd ar ei ol, meddir, tua phedwar ugain o ysgriflyfrau; ond y mwyaf gwerthfawr o honynt yn ddiau oedd y Celtic Remains, gwaith ag y treuliasai ran helaeth o ddeugain mlynedd i'w gasglu yng nghyd a'i barotoi. Ond fel pobpeth arall bron o'i eiddo gadawodd y gwaith hwnw yn anorphenedig, o blegid dywedir yn y Cambrian Register ei fod yn nwylaw Gwallter Mechain yn