Tudalen:Traethawd bywgraffyddol a beirniadol ar fywyd ac athrylith Lewis Morris.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

1796, yr hwn oedd yn ei barotoi i'r wasg gyda lluaws o ychwanegiadau a diwygiadau. Ond fel mae gwaetha'r modd, ni wnaeth eto mo'i ymddangosiad, ac ymddengys yn ol tystiolaeth awdwr llafurfawr Llyfryddiaeth y Cymry mai yn anorphenedig y mae hyd heddyw. (Gwel Llyfryddiaeth y Cymry, tudal. 370.) Pa faint a gyfoethogasai yr ysgriflyfrau uchod ar lenyddiaeth Cymru, y mae yn anhawdd dyweyd; ond mae yn debyg mai adysgrifau oedd lluaws o honynt o Frut y Breninoedd, Brut y Tywysogion, y Trioedd, a'r hen groniclau Cymreig, ac erbyn hyn ond odid nad oes llawer o honynt wedi eu cyhoeddi yn y Myvyrian Archaiology, &c. Rhoddai L. Morris ddirfawr bwys ar yr hen Frutiau Cymreig, gyda'r rhai yr oedd yn dra chyfarwydd, a chredai yn ddiysgog yn eu dilysrwydd. Pa beth a ddaeth o honynt nid yw yn hysbys ragor na'i bod wedi eu gwasgaru i bob cyfeiriad, megys Llyfrgell yr Ysgol Gymreig, Yr Ymgueddfa Brydeinig, &c. Dinystriwyd llawer o honynt hefyd yn y tân mawr yn Wynnstay rai blynyddau yn ol. Dywed D. Ddu fod lluaws o'i lythyrau at y Prydydd Hir (wedi eu hadysgrifenu gan y bardd ei hun) ym meddiant Paul Panton, Ysw., o'r Plas Gwyn ym Mon, yng nghyd â llythyrau o eiddo Edward Richard, Ystrad Meirig, ato yntau. Dywedir fod y trysorau llenyddol gwerthfawr a dyddorol hyn, yn cynnwys hefyd gasgliad godidog y Prydydd Hir, yn braenu ac yn pydru (ar a wyddys) y dydd heddyw yng nghoffrau mab y boneddwr hwnw. Clywsom hynafieithydd parchus a dysgedig yn dyweyd iddo wneyd cais yn ddiweddar am ganiatâd i'w harchwilio, ac i'r boneddwr (?) wrthod ei gais rhesymol yn sarhaus!

Nid oes genym fel hyn ond defnyddiau lled brinion i'n cynnorthwyo i ffurfio barn gywir am ei alluoedd fel hynafieithydd a hanesydd. Fe ddichon mai y pethau goreu o'i eiddo ydyw ei lythyrau Seisonig, y rhai a gyhoeddwyd yn y Cambrian Register, ac a arddangosant wybodaeth helaeth o'r iaith Gymraeg a'i chwaer-ieithoedd. Ymddengys mai meddwl isel iawn a goleddai Iolo Morganwg am dano, o blegid geilw ef yn "eilun crachfeirdd a chrachieithyddion Cymru;" ac mai "fel hanesydd, gwyrdroi pobpeth i gyd- weddu â'i ddychymmygion diymbwyll ei hun yr ydoedd ef yn wastad " (gwel Brython, iii. 54). O'r tu arall, mae ei ohebiaeth helaeth â gwŷr o ddysg ym mysg y Seison, megys Dr. Carte yr hanesydd, Mr. Pegge, ac ereill yn dangos yr ystyrient ef yn awdurdod uchel ar bob pwnc yn dwyn cyssylltiad â Chymru. Mewn llythyr o eiddo y diweddaf at Dr. Phillip, dywed, "Yr wyf yn gweled mai ysgolhaig tra rhagorol yw Mr. Morris, a'i fod yn gwbl feirniad yn iaith a hanesiaeth ei wlad ei hun. Mi a ddymunwn o fy nghalon iddo roddi i mi gyfieithad naill ai yn y Seisoneg ai y Lladin o'i hanesiaeth ddilwgr ef o Brydain Fawr, yn gymharedig fel yr oedd efe yn son, â llawer o ysgrifeniadau ereill, gyda sylw-nodion adchwanegol er cadarnhau ac egluro ei honiadau, a dymchwelyd y gwrthddadleuon a ddygwyd yn ei erbyn gan rai enwogion." Nid oes dadl, fodd bynag, nad oedd yn feddiannol, fel y prawf yr ychydig ysgrifau a adawodd ar ei ol, ar wybodaeth gyffredinol bron ddiderfyn; ac mewn amrywiaeth a chydgyfarfyddiad lluaws o dalentau y mae ei enwogrwydd ef yn gynnwysedig yn hytrach nag mewn rhagoriaeth mewn un gangen neillduol. A barnu oddi wrth a wnaeth, nid ymddengys ei fod yn berchen ar athrylith ddysglaer i gynnyrchu dim mewn rhyddiaith na barddoniaeth gwir wreiddiol, aruchel, a gorchestol fel ei brif ddysgybl Goronwy Owen. Yr oedd ei lafur a'i ddiwydrwydd yn fawr dros ben, ac fel y cyfryw