Tudalen:Traethawd bywgraffyddol a beirniadol ar fywyd ac athrylith Lewis Morris.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y mae yn haeddiannol o bob parch ac edmygedd. Medrai dori allan a chynllunio mwy na mwy o waith; ond yr oedd ei gymmeriad yn ddiffygiol o'r nodweddion hyny ydynt yn angenrheidiol i ddwyn pobpeth i derfyniad llwyddiannus, sef penderfyniad a diysgogrwydd. Yr ym eisoes wedi cyfeirio ato yn ei gysylltiad â Goronwy fel ei noddwr a'i gymmwynaswr, ac ar lawer adeg gyfyng ar fywyd y bardd anffodus hwnw y profodd efe ei hun yn gyfryw iddo. Ond mae haeru mai ar draul teulu Pentref Eirianell y dygwyd Goronwy i fyny yn Rhydychain, ac y cawsai ei addysg flaenorol, yn anghywir. Yn ei lythyr Lladin at Owen Meyrick, Ysw., o Fodorgan, efe a ddywed, "Gwr ieuanc ydwyf fi, deunaw mlwydd oed, wedi fy ngeni ym mhlwyf Llanfair Mathafarn Eithaf, yn sir Fon. Trwy ddiflin ddiwydrwydd fy rhieni, y rhai sy bur dlodion, gellais fyned i ysgol gyhoeddus Bangor, ac aros ynddi o'r flwyddyn 1737 hyd 1741. Wedi cyrhaedd fy mhenawd eithaf yno, a myned trwy yr hyn a ddysgir yn gyffredin yn yr ysgol, dychwelais at fy rhieni. Wedi marw fy mam, priododd fy nhad wraig arall, a gadawyd i minnau ymladd fy ffordd fy hun." Yn y Gronoviana hefyd dywedir, Ymddengys bod Goronwy wedi parhau yn yr ysgol yn benaf trwy ddylanwad ei fam; ac yn ei bymthegfed flwydd, dywedir ei fod yn isathraw yn Ysgol Ramadegol Pwllheli. Trwy haelioni Mr. Ed ward Wynne, o Fodewryd, y galluogwyd ef i fyned i Rydychain, lle y graddiodd o Goleg Iesu." Ar yr un pryd mae yn amlwg ddigon iddo dderbyn llawer o garedigrwydd oddi ar law teulu Pentref Eirianell, Cymmwynasau llenyddol fel yr ym ddengys, yn fwyaf neillduol, a dderbyniodd ef, modd bynag, gan L Morris, ac yn enwedig ei gyfarwyddyd mewn barddoniaeth. Darfu i'r cyfeillgarwch cynhes a fodolai unwaith rhwng yr athraw a'r dysgybl oeri yn fawr, os nad llwyr ddarfod, cyn ymadael o'r diweddaf am yr Amerig yn 1757. Pa beth fu yr achos uniongyrchol o hyn nid yw yn hysbys; ond dichon fod a fynai arferion anghymmedrol Goronwy, druan, ryw faint â hyny, o blegid yr oedd L. Morris yn elyn anghymmodlawn i ddiota ac ysmocio, dau o wendidau penaf y mawr Oronwy. Y mae y llythyr a ysgrifenodd efe i ddynoethi y bardd anffodus yn dra annheilwng o un a broffesai gymmaint o ymlyniad wrtho, ac yn bradychu y fath ddrwg deimlad tuag ato ag nad yw yn hawdd rhoddi cyfrif am dano. Mae yr awdl farwnad ardderchog a ganodd Goronwy ar ei ol, pan glywodd am ei farwolaeth, yn llawn ddigon o'r tu arall o iawn am y trosedd y tybiai L. Morris ef yn euog o hono, ac yn brawf digonol nad yw doeth yn hir mewn llid." Heb law mai L. Morris fu yn offeryn i ddadblygu gyntaf alluoedd dysglaer ac awen uchraddol Goronwy Owen a'r Prydydd Hir, iddo ef hefyd y perthyn yr anrhydedd o roddi y delyn gyntaf yn nwylaw Parry Ddall, a dysgu iddo egwyddorion cerddoriaeth, yn y rhai y cyrhaeddodd wedi hyny y fath enwogrwydd.

Y mae George Borrow yn ei Wild Wales yn talu y warogaeth uchaf i alluoedd meddyliol a gwladgarwch dihafal Llywelyn Ddu, fel y prawf a ganlyn: "Dichon na bu erioed ddyn mwy cyffredinol ei wybodaeth; yr oedd yn beiriannwr o'r fath oreu, yn forwr medrus, yn gerddor gwych o ran deall a dawn, ac yn fardd o ragoroldeb neillduol. Dywedid amdano, a hyny gyda chywirdeb, y medrai adeiladu long a'i hwylio, gwneyd telyn a'i chwareu, a gwneyd cywydd a'i ddadgan dan dant. Eto, nid yw hyn, er mor ganmoliaethol, ond rhy brin i osod allan alluoedd a chyrhaeddiadau mawrion Lewis Morris. Er yn hunanddysgedig, ys-