Tudalen:Traethawd bywgraffyddol a beirniadol ar fywyd ac athrylith Lewis Morris.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tyrid ef yr ysgolhaig Cymreig goreu yn ei oes, ac yr oedd yn dra hyddysg yn nhafodieithoedd y Gymraeg, y Gernywaeg, yr Armoraeg, y Gaelaeg, a'r Wyddelaeg. Yr oedd hefyd yn gyfarwydd & Hebraeg, Groeg, a Lladin, wedi efrydu yr Anglo Saxon gyda mawr lwyddiant, ac yn ysgrifenydd Seisonig grymus a medrus. Heb law hyny, yr oedd yn hynafiaethydd cyffredinol gwych, ac o ran ei wybodaeth o hen ddefodau, traddodiadau, ac ofergoelion Cymreig, yr oedd yn ddigymhar. Er hyn i gyd ni ddywedwyd eto yr oll a ellir mewn ffordd o ganmoliaeth iddo; meddai ar briodoleddau meddyliol a hawlient iddo fwy o barch nag unrhyw gyrhaeddiadau meddyliol neu gelfyddgar. Ym mysg y rhai hyn yr oedd ei haelioni a'u hunanymwadiad er lles ereill. Cyssegrai wythnosau a misoedd er arolygu helyntion y weddw a'r amddifaid: un o'i brif bleserau oedd cynnorthwyo teilyngdod, i'w ddwyn o flaen y byd, a chael o hono briodol gydnabyddiaeth efe oedd y cyntaf i ddarganfod athrylith gerddorol Parry Ddall; efe roddes y delyn gyntaf yn ei law, efe roes addysg gerddorol iddo, ac efe a'i calonogodd ac a'i cynnorthwyodd ag arian: Efe a ddysgodd yr hyglod Evan Evans yn hen iaith ei wlad, gan alluogi y dyn talentog ond hynod hwnw i ddarllen tudalenau y Llyfr Coch o Hergest mor rhwydd a'r Beibl Cymraeg; efe a ddiwygiai ei linellau â medr diail, gan eu coethi a'u haddurno nes eu gwneyd yn deilwngi o ddarlleniad gan oesau dilynol; efe roddes iddo gyfarwyddyd, yr hwn pe ei dilynasai a barasai i'r Prydydd Hir gael ei restru ym mysg yr enwocaf o Gymry y ganrif ddiweddaf; ac efe oedd y cyntaf i ddyweyd wrth ei gydwladwyr fod gwr ieuanc ym Mon, athrylith yr hwn ond ei chefnogi yn briodol a allai mewn amser ymgystadlu ag eiddo Milton ei hun: un o'r llythyrau mwyaf hyawdl a ysgrifenwyd erioed ydyw yr eiddo ef, yn yr hwn yr ymdrinia ar dlysni rhai caniadau o eiddo Goronwy Owen, talent foreuol yr hwn a dynasai ei sylw, a'r hwn a ddilladodd, a ddysgodd, ac a gynnorthwyodd hyd yr adeg yr ordeiniwyd ef yn weinidog yn yr Eglwys, a'r hwn a achubodd efe o gyflwr bron yn ymylu ar newyn yn Llundain, ac a gafodd iddo swydd anrhydeddus yn y Byd Newydd." Y mae y cyfryw ganmoliaeth gan estron i'n cenedl (er nad yw yn gywir fel y gwelir gyda golwg ar rai pethau) yn anrhydedd i ben a chalon yr awdwr, ac yn gerydd haeddiannol i'r corachod anwladgar hyny na fedrant ganfod teilyngdod heb fyned tu hwnt i Glawdd Offa.

Fel yr awgrymwyd eisoes treuliodd L. Morris y rhan olaf o'i fywyd yng Ngheredigion, yng Ngalltfadog, ac wedi hyny ym Mhen y Bryn, i'r hwn le y symmudodd ar ei briodas. Ei ail wraig oedd Ann Lloyd, etifeddes y le hwnw, â'r hon yr unwyd ef mewn glân briodas Hydref 20fed, 1749. Bu iddynt naw o blant-pum mab a phedair merch, o'r rhai y bu amryw feirw yn ieuainc, a bu farw eu mam Mawrth 30fed, 1786. Yn ei flynyddau olaf, cystuddiwyd ef yn drwm gan wahanol anhwylderau, a bu farw Ebrill 11fed, 1765, yn 65 oed. Claddwyd ef yn Eglwys Llanbadarn Fawr, lle y dangosir ei fedd, ond er gwarth oesol i ni fel cenedl nid oes eto gymmaint a cherfiad na chareg i ddynodi y fan y gorphwys gweddillion un o feibion mwyaf gwladgarol Gwyllt Walia!

Bellach rhaid i ni draethu ychydig am Lewis Morris fel bardd. Yr ydym eisoes wedi talu gwarogaeth wirioneddol iddo fel gwladgarwr a llenor, ac fel athraw a noddwr haelionus awenyddion, ac wedi gosod iddo le anrhydeddus ym mysg enw ogion a chymmwynaswyr ei wlad, ond credwn nad ydyw cyfiawnder a gonestrwydd yn hawlio iddo ond lle israddol yn nheml Awen a chân. Fod ganddo ryw fath o athrylith