Tudalen:Traethawd bywgraffyddol a beirniadol ar fywyd ac athrylith Lewis Morris.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

farddonol a dawn i gynghaneddu yn gywir a chywrain sydd ddiammheuol; ond o'r tu arall, cam â'i goffadwriaeth fyddai ei restru ym mysg beirdd o'r un dosbarth a'r gorenwog Goronwy Owen. Yr oedd y dysgybl yn annhraethol well bardd na'i athraw, a cheir yn ei 150 llinellau, "Cywydd y Farm Fawr," fwy o wir farddoniaeth nag a geir yn holl linellau Ll. Ddu gyda'u gilydd. Ond os ydym i gymmeryd tystiolaeth Goronwy ei hun ar y pwnc hwn, "Llywelyn Ddu ydyw pen bardd Cymru oll, ac ni weddai y teitl neu yr enw hwnw i neb arall sydd fyw heddyw." Mewn llythyr at Risiart Morris, dyddiedig Awst 15, 1752, ceir yr un sylwadau canmoliaethol. Tra yn cyfeirio at ei "Gywydd y Farn Fawr," dywed, "Ni'm dawr i pa farn a roir arno, o blegid gael o hono farn hynaws a mawr glod gan y bardd godidocaf sydd yn fyw heddyw, ac o ddamwain a fu byw erioed yng Nghymru, nid amgen Llywelyn Ddu o Geredigion, yr hwn yr ydwyf yn ei gyfrif yn fwy na myrdd o'r mân glytwyr dyriau naw ugain yn y cant sydd hyd Gymru yn gwybeta, ac yn gwerthu neu yn gwneuthur ambell resynus garol, neu ddyri fol clawdd." Ceir hefyd yr un syniadau gorganmoliaethol ganddo yn ei awdl farwnad odidog iddo, fel y prawf y dyfyniadau canlynol:-

"Mawredd gwlad Wynedd, glod union—ceinwalch
Cynnor presennolion;
A byw urddas y beirddion,
A'u blaenawr oedd Llew mawr Mon.


"Ef oedd Ofydd,
A dywenydd,
Hylwybr ieithydd
Hil y Brython.
Gan wau gwynwaith,
Tlysan tloswaith,
Oran araith,
. . .aur wron


"A thra bo urddawl athro beirddion,
A mwyn dysg wiwles mewn dwys galon,
Gwiwdeb ar iaith a gwaed y Brython,
Ac awen Gwyndud ac ewyn gwendon,
Ef a gaiff hoewaf wiw goffeion,
Daiar a nef a dwr yn afon."


Nid oes le i ammheu am fynyd nad oedd Goronwy yn berffaith onest a chydwybodol tra yn rhoddi y fath ganmoliaeth eithafol a hyn i gynnyrch ei awen, o blegid fel y tystiai yn un o'i lythyrau, "nis gallai wenieitho." Yr unig ffordd, gan hyny, y gallwn roddi cyfrif boddhaol am hyn ydyw, fod Goronwy, druan, wedi cael ei arwain i goleddu y fath syniadau uchel am ei athraw a'i noddwr oddi ar deimlad o'i fawr rwymedigaeth am ei luaws cymmwynasau iddo o bryd i bryd, ac felly fod diffuantrwydd ei ddiolchgarwch wedi peri rhoi o hono i'r bardd yr hyn yn briodol a berthynai i'r gwladgarwr trylen, ac i'r cyfaill caredig a haelionus.

Wedi darllen yn ofalus yr oll o'i gyfansoddiadau barddonol, ac nid gorchwyl hawdd iawn na dymunol chwaith ydyw hyny, y cwbl bron allwn ddyweyd yn ei ffafr ydyw y dangosant gryn lawer o allu celfyddydol eu hawdwr, a'i fod yn dra hyddysg yn neddfau mesur a chynghanedd, ac nad oedd hualau cynghanedd yn un rhwystr na thrafferth iddo i gyfansoddi ynddynt; ond yn ofer yr edrychwn ynddynt am ddim o'r beiddgarwch awenyddol hwnw a nodweddai gyfansoddiadau yr anfarwol Oronwy. Ar yr un pryd rhaid cyfaddef na wnaeth efe erioed chwareu teg ag ef ei hunan gyda golwg ar ddewisiad ei destynau. Ammhosibl i'r awen gryfaf ei haden gynnyrchu dim gwir fawr a goruchel tra na chynnygir iddi ond gwrthddrychau distadl ac annheilwng i ganu arnynt. Diammheu y gallasai yntau ragori ac ennill anfarwoldeb yn nheml Awen a chân per na chamgyfeiriasai ei awenydd fel y gwnaeth. Ceir yn rhai o'i gywyddau, ac yn enwedig y rhai i'r "Geiniog" a'r "Rhew," modd bynag, rai tarawiadau hapus dros ben, ond prin y maent yn ddigon i wneyd iawn am y diffyg chwaeth, heb son dim am y dôn anfoesol a nodwedda luaws o'i