Tudalen:Traethawd bywgraffyddol a beirniadol ar fywyd ac athrylith Lewis Morris.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gerddi. Yn y blaenaf o'r ddau uchod dywed,

"Codog arglwyddi cedyrn
Am geiniog ynt chwannog chwyrn,
Cyfreithwyr, denwyr dynion,
Blingant Ddiawl er hawl ar hon:
Ceiniog o gyflog i'r gwr,
I'w ddelw fe a'n addolwr."


Ac yn ei gywydd i'r "Rhew a'r Eira," ceir y llinellau tlysion a ganlyn:—

"Eira gwyn yn oeri gwedd,
A'r llwch yn cuddio'r llechwedd;
Pob lle'n oer, pob llwyn yn wyn,
A diffrwd fydd y dyffryn;
Clo ar ddwfr nid clasar fydd,
A durew hyd ddaiarydd,
A bwyd adar byd, ydoedd
Dan glo Duw yn galed oedd;
Aed a'r agoriad adref
Yn iawn i'w gadw yn y nef."


Ei ganeuon rhyddion, os nid y goreu o'i eiddo, ydynt ar yr un pryd y mwyaf adnabyddus a phoblogaidd, ac ym mysg ereill gellir enwi y rhai canlynol:—"Cân y panwr," "Lladron Crigyll," "Gallt y Gofal," a "Chaniad y Gog i Feirionydd." Yr olaf o'r rhai hyn, a'r hon a adnabyddir hefyd wrth yr enw, "Morwynion Glan Meirionydd," ydyw bron yr unig un o'i eiddo sydd wedi trosglwyddo ei enw i lawr fel bardd adnabyddus i'r lluaws yn yr oes hon. Dichon na chyfansoddwyd yr un dernyn erioed ag y mae cymmaint canu arno, yn enwedig gyda'r tannau, a'r gân fer hon. Yn wir, cym maint yw ei phoblogrwydd fel mae wedi dyfod yn rhyw fath o household song, yn gân genedlaethol, ac yn fath o gymmyarodd werthfawr yng ngolwg ei gydwladwyr. Pell ydym ar yr un pryd o roddi iddi y fath ganmoliaeth ag a rydd rhai, sef "nad oes goethach a rhagorach awenyddiaeth delynegol yn yr iaith na'r pennillion melusber hyny." Y mae yna yn wir ryw wythien gyfoethog o wladgarwch diledryw yn rhedeg trwyddi, a rhyw swyn anorchfygol yn odlau y llinell anfarwol, "Morwynion Glan Meirionydd," ag sydd yn debyg o sicrhau iddi boblogrwydd tra y ceir awen a chân yn fyw yn ein gwlad, a thra y clywir odlau melusber y delyn yn adsain rhwng bryniau gwyrddion a dyffrynoedd swynol "Cymru lân, gwlad y gân."

Nid ydyw gwaith Llywelyn Ddu mwy na lluaws ereill o'r hen feirdd yn rhydd oddi wrth feiau ieithyddol, er cystal Cymreigydd ydoedd, a brithir ef gan fastarddeiriau fel y rhai canlynol:—safio, siawns, riwlio, ordor, mendio, &c., y rhai ydynt yn mawr anurddo ei linellau. Ond hwyrach nad ydoedd ef yn hyn o beth yn fwy troseddwr na'r cyffredin o'r hen feirdd.

Yr ydym eisoes wedi awgrymu fod ei ganeuon o nodwedd isel ac anfoesol, a drwg genym ailadrodd mai hyn ydyw eu nodwedd yn gyffredinol. Yn wir, y mae llawer o honynt ar destynau na oddef deddfau chwaeth hyd yn oed eu henwi. Trueni yn wir ddarfod i un a allasai yn ddiammheu ragori a gwneyd gwasanaeth i achos crefydd a moesoldeb yn yr oes dywell hono (ond cyfeirio ei awen yn briodol) i ymostwng i byllau isaf llygredigaeth, a throseddu deddfau mwyaf cyssegredig chwaeth a moesoldeb. Priodol iawn yn wir y gofyna efe ei hun yn un o'i gywyddau,

"Rhodd Duw o'i law yw'r Awen,
A'r pwyll a roes yn y pen;
A pham i ti, gwedi'r gwaith,
Ei fwrw ar gam oferwaith?"


Ar yr un pryd y mae "barn cariad " yn ein tueddu i gredu mai ffrwyth awen wyllt a nwyfus ei ieuenctyd ydoedd llawer o'r caniadau mwyaf llygredig hyn, a dichon pe y cawsai eu hawdwr lais yn y mater na welsent byth oleu ddydd. Er hyn i gyd ni ddymunem mewn un modd ei esgusodi, a llawer llai ei gyfiawnhau, eto ni ddylid ef allai ei farnu yn gwbl fanwl wrth reolau a safonau caeth yr oes gyfnewidiol a mympwyol hon. Er fod deddfau gwirionedd a moesoldeb fel eu Hawdwr mawr yn anghyfnewidiol ac ansigledig, y mae