Tudalen:Traethawd bywgraffyddol a beirniadol ar fywyd ac athrylith Lewis Morris.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwaeth o'r tu arall yn dra chyfnewidiol ac anwadal, ac felly nid teg cymmeryd un oes yn safon i farnu un arall wrthi. Os trown i weithiau cydoeswyr Llywelyn Ddu, er enghraifft, Elis Wynn, Goronwy, a'r Prydydd Hir, cawn eu bod, er yn offeiriaid, ysywaeth, yn tori deddfau chwaeth yn barhäus; hyny ydyw, yn ol ein syniadau ni ar hyn o bryd o barth i'r hyn a gyfansodda chwaeth. Ni ddylem ni, gan hyny, yn yr oes oleuedig a diwylliedig (?) hon roddi barn condemmiad a sel ein hanghymmeradwyaeth yn rhy frysiog ar arferion ac ymddygiadau ein hynafiaid mewn oes lai ei gwybodaeth a'i breintiau. Os oeddynt hwy weithiau yn troseddu trwy ddefnyddio iaith rhy bendant a diamwys, dichon y gallwn ninnau trwy ymgais at ormod coethder, a thrwy beidio galw pethau wrth eu henwau priodol, fod felly yn llawn mor agored i gerydd, ac ymddangos fel yn cymmeradwyo yr hyn fyddo dramgwyddus a drwg: mae y fath beth a false modesty, ac mae hwnw yn beth i'w fawr osgoi bob amser. Ni ddylid chwaith anghofio y ffaith fod Lewis Morris yn byw mewn oes hynod am ei thywyllwch a'i hanwybodaeth. Ganwyd ef mewn cyfnod ar hanes Cymru at yr hwn y gellir gyda phriodoldeb gymhwyso geiriau yr ysgrifenydd ysbrydoledig, "Tywyllwch a orchuddiai y ddaiar a'r fagddu y bobloedd." Y pryd hyny, ac am flynyddau wedi hynny ni fu traed yr un efengylydd ymneillduol yn troedio tir Mon, ac am fugeiliaid y llanau, ychydig iawn o honynt geid yn effro, ac yn teimlo dwfn gyfrifoldeb eu swydd oruchel. Ac nid oes genym le i feddwl fod awyrgylch foesol y teulu y dygwyd L. Morris i fyny ynddo ronyn yn burach a mwy manteisiol i feithriniad ffrwythau moesoldeb a chrefydd nag eiddo y cyffredin o'n cymmydogion. Yr oedd awenyddiaeth Cymru yr adeg hono bron yn gwbl gyfyngedig i destynau masweddol a halogedig, a chyfeddach y dafarn a chwmni llygredig fyddent yr achlysuron penaf i alw allan eu doniau, o blegid nid oedd na chyfarfod llenyddol o un math nac eisteddfod i roddi iddi unrhyw symbyliad na chyfeiriad. Nid rhyfedd, gan hyny, ynte, i awen nwyfus dyn ieuanc o'r fath fywiogrwydd a L. Morris, wedi unwaith gael y ffrwyn ar ei gwar, yn lle esgyn i fyny i'w bro gynhenid ei hun, gan ymbleseru ar uchelfanau gwyrddion bryniau anfarwoldeb, ac ymdrin ar hyd meusydd toreithiog gwir fawredd ym mysg blodau teleidion rhinwedd a moesoldeb, fyned i grwydro i "anialwch gwag erchyll" y byd israddol, ac ymdreiglo ym mhydewau erchyll llygredigaeth. Yr oedd ei gydoeswyr y beirdd Seisonig, o ran hyny, yn llawn mor ddwfn o ran gradd eu trosedd ag yntau; a cheir fod gweithiau y bardd mawr Pope, awdwr y gân anfarwol, "Y Messiah," ym mhell o fod yn lân a difrychau, ac nis gellir darllen llawer llinell o'i eiddo heb wrido a chywilyddio. Ond os edrychwn i waith Byron, yr hwn a oesai gymmaint yn ddiweddarach, ac yn enwedig i'w "Don Juan," cawn ei fod yn drifrith o'r ymadroddion mwyaf halogedig ac isel, yn gystal ag o'r annuwiaeth mwyaf hyf a beiddgar. Mae hyn i'w ddyweyd, modd bynag, am y bardd Cymreig, er cymmaint ei wendidau (a phwy yn wir hebddynt), nad ydyw erioed yn un o'i ganeuon wedi gwneyd yr ymgais leiaf i daflu dirmyg ar ordinhadau yr Efengyl, a phethau cyssegredig y Beibl; ac ni cheir yn un o'i linellau hyd y sylwasom yr un ymgais i ddangos dim yn amgen na'r parch dyfnaf i'r Bod mawr, awdwr a rhoddwr y ddawn awenyddol. Y mae yn hyfryd meddwl hefyd fod buchedd y bardd, beth bynag yn y rhan olaf o hono, yn ol yr hanes geir am dano, yn dra difrycheulyd a gweddus. Yn unig