Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tri Wyr o Sodom a'r Aipht.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

na dwyn tyst o blaid y cryf, heb iro ei law â rhyw swm o'r mammon annghyfiawn. Anudoniaeth oedd un o'r pethau mwyaf ag oedd yn cryfhau ei freichiau yn erbyn yr amddifad, ac a'i rhoddai i enill y treial ar gam er dinystr i amryw o wirioniaid y wlad. Yn fyr, yr oedd efe wedi dysgu myrddiynau o ffyrdd i gasglu cyfoeth, oll yn ddrygionus, yn ddichellgar, ac yn annghyfiawn; nid oedd ei feddyliau yn rhedeg ond ar olud anwadal y byd hwn; nos a dydd yr ymestynai am dano, nis gadawai ffair na marchnad heb chwilio am elw; mewn mor a thir yr ymofynai am drysor; ei dafod oedd yn llefaru am y peth, ei glustiau yn gwrando newyddion am le i dreisio y gwirion, ac i lwyr fwyta yr amddifad; ei draed oedd yn cerdded i'r lle y b'ai y gelain, a'i ddwylaw oedd yn taer ymafaelu am yr ysglyfaeth. Fel hyn y treuliodd ei fywyd, nes ydoedd rhyw faint dros ganol oed, heb feddwl mwy am farwolaeth na'r anifail mud, nac ystyried pa ddyn a'i mwynhäai ar ei ol ef. Boddi yr oedd mewn tywyllwch ac anwybodaeth am gyflwr ei enaid; nis meddyliodd am farw nes oedd gerllaw iddo-ie, yn ei fynwes. Pum' deg o flwyddau ydoedd ef pan ddaeth brenin y dychryniadau i mewn dros ei drothwy; yn ddyeithr iawn ac mewn gwisgoedd anhebygol y dringodd i fyny i erchwyn ei wely ef; ac nis credodd y bydol-ddyn mai efe oedd ef nes oedd ar ei daro â'r ergyd marwol. Fe'i galwodd ef yn anwyd, yn beswch, ac yn ddolur bychan yn ei ysgyfaint, ac nad oedd berygl oddiwrtho; nid oedd amheuaeth ganddo nas ffoai efe yn mhen ychydig ddyddiau; gronyn o wres a chwys, i'w dyb ef, a'i gwellhäi o'r cwbl; eto y poen oedd yn myned yn fwy-fwy, ac angeu yn eonach, eonach, nes o'r diwedd gorfu ar Avaritius druenus anfon am physygwr, oddiwrth ba un nid oedd fawr gysur na gobaith. Yn awr dyma yr holl berthynasau yn cydgyfarfod, yn ymbil am ran o'r meddianau annghyfiawn neiaint, cefnderwyr, cyferdderion, tlodion, a chyfoethogion, hen ac ieuaingc, yn dorfeydd ac yn finteioedd, yn amgylchu y gwely; ac angeu mor bell o ymadael fel yr ydoedd yn ymafaelu yn gryfach. Moes i mi, moes i minau, oedd llais yr holl geraint; y tlodion yn gruddfan ac yn wylo am eu rhan; a'r cyfoethogion hwythau yn eu cilgwthio ymaith, gan gynyg dwyn yr holl ysglyfaeth i gyd yn eiddo iddynt eu hunain. O'r diwedd danfonwyd am hen garl i wneud yr ewyllys ddiweddaf; ac yn awr ystyriwch pa. gyfyngder oedd ar enaid y dyn truenus hwn dan y fath amgylchiad anobeithiol. Cydwybod yn gwaeddi yn groch, fel arthes wedi colli ei chenawon, ac yn rhuo saith mwy na llew fyddai yn ngolwg ei ysglyfaeth; yn galw i gof iddo ei holl drachwant, trais, gormes, a chelwydd; yn rhifo yn ei wyneb