Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tri Wyr o Sodom a'r Aipht.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iaid, a neb cyfeillion iddo, pan yr oedd yn eu maeddu a'u gorthrymu fel hyn?

CANT.—Ei gyfrwysdra ef oedd mor fawr, fel y denai lawer i'w rwyd: gweniaith a geiriau teg ddenai rai; ofn ac arswyd weithiau ereill ; addewidion cryfion am rhyw bethau mawrion i'w mwynhau dwyllai un yn was neu ddeiliad; ac awydd i barch ac enw hudai un arall i'w wasanaethu ef; ond os fyth y cyflawnid un o'r addewidion hyn, cant i un nad o foddion rhai ereill y caent eu cyflawni. A'i ddichell ef oedd mor fawr, a'i ddyfais mor fyw, fel y gwnaeth i ereill rai prydiau dalu am fedi ei faesydd ef. Efe a berswadiodd Ineptus i'w wasanaethu ef ddwy flynedd am ei helpu ef i swydd ardderchog ag oedd yn dwyn i mewn ddau can' dryll o arian yn y flwyddyn; ond cyn cael y swydd hono, gorfu ar Ineptus dalu haner yr elw hwnw iddo ef ei hun, a thyngu na chai neb fyth wybod y cyngrair. Yr oedd ei arian wedi taenu ar fôr ac ar dir; ni ddeuai llog cyfreithlon à haner digon o elw; ond fe wasgarodd ei dda rhwng y marsiandwyr, fel yr oedd ei drysorau yn fynych yn dyblu erbyn diwedd y flwyddyn. Cadw ei aur yr oedd ef tuag at ddysgwyl dydd drwg ar y tlodion, fel y byddent yn fara iddo. Yr anifeilaid ag oedd efe yn eu gwerthu i'r gyrwyr a werthai ar bris dauddyblyg; ond er mwyn cael elw triphlyg oddi wrthynt rhoddai arian hefyd yn fenthyg iddynt tros y tymhor hwnw, ar eu dyblyg log; ond ar yr amser appwyntiedig y byddai Avaritius yn dysgwyl fel llew yn ei ffau am ysglyfaeth, am ddifa y cwbl yn mherchen y gyrwr tlawd hwnw; canys âi yn fynych i'w gyfarfod ef daith tri diwrnod, ac a fynai ei holl ddyled yn yr un taliad, gan ei ysbeilio ef, a thrwy hyny ei holl gymydogion gartref ag oedd wedi gwerthu iddo fel yntau. Ac felly ei arian benthyg ef, a'u llog dwbl, toreithiog, yn nghyda gwerth ei anifeiliaid mawr-bris, a'u cymeryd ymaith ar unwaith, oedd yn gwneud cod y gyrwr hwnw yn wag i'r gwaelod, a'i wyneb yn wlyb o ddagrau, ei gelwrn yn llwm o flawd, a'i ysten yn sych o olew; a'i holl gymydogion yn gruddfan am y golled. Mil o ffyrdd oedd gan y gŵr awyddus hwnw i ddyfod â'r geiniog i mewn, a dwy fil o ffyrdd pan y deuai i'w chadw hi rhag myned allan. Os yn y gwindy yn gwneud bargen, nid oedd efe yn talu am ei gwpaneidiau gwin; os yn y wledd yn bwyta, fe wnai trwy ryw dwyll neu ddichell i arall dalu; ac yn ei holl ymdrin â'r byd, ar gefn y tlodion yr oedd efe yn byw. Nid oedd fawr yn begian arno ef, ond yr oedd ef yn begian ar bawb; ac nid âi un achos trwy ei law ef heb wobr a rhodd uwchlaw haeddiant yr achos. O swyddau a lleoedd yr oedd aml olud yn cludo iddo; ni phleidiai achos y gwan,