Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tri Wyr o Sodom a'r Aipht.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

droed ef gael ei dal yn y rhwyd. I'r gŵr hwn y gwerthodd Avaritius fustach am driugain darn o arian bathol; Honestus a gynygiodd yr arian yn yr amser appwyntiedig, ond nis derbyniai Avaritius hwynt heb eithaf llog; yr hyn pan nacaodd Honestus am nad oeddent addawedig, ac am nad oeddent ganddo i'w talu, Avaritius yn ddioed a osododd achwyn arno, ac a'i dygodd o flaen brawdleoedd at y swyddogion uchelaf, ac a honodd y ddyled yn ddauddyblyg, gan ddwyn gau dystion i dyngu y cam yn iawn; a'r treial a redodd o ochr Avaritius, am fod gwobrwy, trais, a derbyn wyneb yn enill gyda swyddogion uchel, nes oedd Honestus erbyn hyn, rhwng dyled triphlyg Avaritius a thraul cyfraith dros amryw filoedd, wedi myned dros bum' cant darn o arian mewn gofyn, yr hyn oedd gymaint ag a dalai efe yn y byd. Yna Avaritius a anfonodd oddeutu ei holl gymydogion, ei ddeiliaid, a phendefigion y wlad i erfyn nas rhoddent un hatling yn fenthyg i Honestus, yn yr hyn buont oll yn ffyddlon rhag anfoddloni Avaritius; a'r canlyniad oedd danfon y ceisiaid i ddwyn ymaith yr oll a feddai, cymeryd yr ychydig dir ag oedd arno i'w feddiant ei hun, a'i wneud ef fel ereill yn dlawd ac yn angenus A rhagor hefyd, canys fe garcharodd Honestus dan rith fod rhan o'r ddyled heb ei thalu; ac ar ol aros yno hir ddyddiau, ei wraig a'i blant yn cardota bara, Honestus a glafychodd yn y carchar o newyn, anwyd, noethni, ac a fu farw, ac yntau yn etifedd o'i holl feddiant.

PERCON.—Fe ddaw dydd y chwyda efe hwynt i fyny, ac y byddant fel plwm brwd yn ei goluddion, yn ei losgi yn oes oesoedd; ac y melldithia yr awr y chwenychodd efe i ddifa y dyn gwirion hwnw.

CANT.—Mae yr awr hono wedi dyfod arno ef, canys fe aeth i'r farn fawr er ys dyddiau; ac y mae efe yn ofni, yn crynu, yn duo, ac yn ysgyrnygu danedd mor danbaid y dydd heddyw ag y byddai yn rhy ofnadwy i edrych arno. Ond nid oedd hwn ond un o lawer a ddiwreiddiodd ef, ac nid oedd efe yn ymgeleddwr i un dyn byw; canys er bod ganddo amryw dan enw cyfeillion, ac yn caru cael ei alw yn gymwynaswr da iddynt, ac yn cymeryd arno amddiffyn y gweiniaid, a bod yn rhwysg i'r weddw a'r amddifad; eto treisio ei ffryns yr oedd Avaritius fel ei elynion—treisio ei ddeiliaid, treisio ei weision, treisio ei gaethweision; canys trais oedd ei fara beunyddiol ef. Ni byddai y gyflog lawer pryd ond haner cyfiawnder, a'r taliad yn fynych yn llai na'r addewid; ac nid oedd treth, toll, na gwestfa na lynai rhyw swm fychan o honi wrth ddwylaw Avaritius.

PERCON.—Ond pa fodd yr fodd yr oedd efe yn cael gweision, deil-