Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tri Wyr o Sodom a'r Aipht.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ant farsiandiaeth o'i dai, ei diroedd, a'r cwbl a feddai ef yn y byd ac yna darfu ei barch a'i anrhydedd gyda ei gyfoeth. Ond tuag at berffeithio y gwaith, ei ddrwg fuchedd a hauodd o'i fewn amryw glefydau marwol, y rhai a'i dygodd bob yn ychydig ac yn ychydig i lawr i'w fedd: ei segurdod a fagodd y gout, ei loddest a'i feddwdod y dropsi, jandis, a'r nerfows; ei fenyweta hefyd a ddygodd ei nerth, laddodd ei ysbrydoedd, fel yr oedd yn ymddangos cyn myned o'r byd yn fwy tebyg i ddrychiolaeth nag i ddyn yn gwisgo cnawd ac esgyrn.

PERCON.—Ond da fyddai genyf glywed pa ddull yr ydoedd yn ei glefyd ac yn ei farwolaeth.

CANT.—Dychrynllyd iawn ac ofnadwy; canys pan unwaith yr aeth ei glefyd ef yn drwm ac anfeddyginiaethol, fe ddaeth i'w gof ef ei holl afreolaeth, a'i bechodau a ymfyddinasant i'w erbyn—amgylchynasant ef fel gwenyn, heb nerth ganddo i'w gyru hwynt ymaith; ei gydwybod ag oedd yn cysgu o'r blaen—ac oedd, fel y tebygid, wedi marw yn awr a safodd ar ei thraed, ac a waeddodd, Gwaed, gwaed! hyny yw, mai ei bleserau a'i chwantau a wnaeth angeu mor agos iddo. Gwae fi yn awr, oedd ei ruddfanau a'i ocheneidiau—ïe, ysgrechfeydd ofnadwy oedd yn mygu allan o'i safn ef: melldithio ei hen gyfeillion, melldithio y gwin a'r gwin-dai y gwariodd ef ei amser gwerthfawr, heb enill ond cludo arno ei hun fynyddau o euogrwydd, tlodi annyoddefol, a chystudd oedd sicr i'w ddwyn ef i lawr i'w fedd. Nid oedd un o feiau ei fywyd, ag oedd yn aneirif, na ddaeth heddyw i'w gof fel pe buasent wedi eu gwneud y dydd o'r blaen; saeth lem oedd pechod y pryd hyn, a'r blas ag oedd ynddo gynt wedi troi yn wenwyn aspiaid; ffiaidd oedd ganddo feddwl am y cyfeillion a'u cyfeillach; y meddwdod, y gloddest, a'r ymlanw ddaethant gyntaf i'w gof, am mai y rhai hyn a roddodd achlysur i'r lleill i ganlyn. O!'r fath dân heddyw oedd yn ei arenau am anudoniaeth, celwydd, a thrais: brath cleddyf yn ei ymysgaroedd oedd ei anlladrwydd a'i buteindra; y fath ofn oedd arno farw, fel yr oedd agos i farw o ofn y dydd mawr cyn ei ddyfod. O'r crynu yr oedd pob asgwrn wrth weled dydd gras wedi myned heibio yr awrhon! heb le dysgwyl am drugaredd mwy ! Och fi eb efe, gwae fi erioed; pa le yr oeddwn tra fu ereill ar eu gliniau! ereill tan y gair, a minau yn y dafarn! ereill yn moli Duw mewn salmau, hymnau. ac odlau ysbrydol, a minau yn feddw ar fy ngwely; rhai yn darllen ac yn myfyrio ar air y bywyd ar y pryd yr oeddwn i yn carousio yn mhlith fy nghyfeillion rheglyd, meddw. O fel y treuliais lawer cant o Sabbothau heb feddwl mwy am DDUW na'r anifail a ddyfethir. Ond dyma'r dydd wedi dyfod o'r diwedd y dyfethir finau—fy haeddiant i yw hyn oll!