Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tri Wyr o Sodom a'r Aipht.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

O na buasai heb un Duw yn bod! neu na buasai Prodigalus yn rhyw greadur heb fod yn fab gwraig, yna mi ddiangaswn o'm holl ofid; ond dyn wyf fi (a gwae fi yr awr hon fy mod i felly) ag sydd yn gorfod cyn pen ychydig ddyddiau fyned i'r farn; y porth sydd wedi ei gau, a'r ffwrn o dân a brwmstan yn barod i dderbyn y troseddwr.—Yn wir, fy nghyfaill Percontator, chwi fuasech yn rhoi llawer am fod allan o swn ei ochain a'i ruddfanau anobeithiol ef: yn awr yr agorwyd ei lygaid, ac yn awr y cafodd olwg ar ei holl bleserau yn eu lliwiau duon eu hunain; ac i'r farn yr aeth—yn ol pob argoel —heb weled dim meddyginiaeth i bechadur truan; yn unig gweled rhyw ronyn arno ei hun yn bechadur, ac wedi dinystrio ei hun gorph ac enaid, meddianau a chyfan, a bod yn rhaid iddo ymddangos felly mewn barn, a'i droi ar law aswy Duw.

PERCON. Mi adwaen lawer, fy nghyfaill, o rai a dreuliasant eu bywydau yn mhob pechod, heb ddihuno nes yn eu clefyd diweddaf; a'r Duw mawr fel yn eu cydwybod y pryd hyny yn llefaru, ac yn gofyn y fath gwestiynau a hyn: Rho gyfrif o'th oruchwyliaeth—ni chai fod yn oruchwyliwr mwy. A chyda hyny, dychryn yn ei ddal fel swyddog yn dal lleidr i'w arwain at y bar i'w gondemnio; canys ni feddant air i ateb ond iddynt wneud camddefnydd ac afreolaeth ar holl drugareddau yr ARGLWYDD. Duw yn gofyn y pryd hyny pa beth a wnaethant o'r meusydd hyfryd a gawsant ganddo; a aeth rhan o'r rhai hyn i borthi ei dlodion Ef â bara; a ddilladwyd neb o'i noethion Ef â hwynt; a ddiodwyd neb o'i rai sychedig Ef â'u ffrwythau hwynt ? A'u cydwybod yn ateb, Naddo, ond yn cyhuddo yn eu hwynebau o flaen Duw, ac yn gorfod cyfaddef o flaen dynion iddynt eu treulio hwynt oll ar eu melus chwantau; ac yn awr eu bod yn haeddu y farn oedd ar syrthio arnynt, ond rhy ddiweddar yw hi ar y rhan fwyaf y pryd hyn i gymodi à Duw ag sydd wedi ei ddigio trwy holl ddyddiau eu bywyd trwy anufudd-dod. Ond yr wyf yn gobeithio i chwi, Cantator, wneud Marwnad i'r truenus ddyn hwn er rhybudd i ereill rhag myned i'r lle ofnadwy hwnw, am nad oes dim argoel llai nad gyda diafliaid mae ei nyth tragywyddol ef y dydd heddyw

CANT. Ei Farwnad sydd yn rhedeg fel hyn:—

Dacw loddest wedi darfod, dacw fedd'dod yn ei rym,
Ag a lediodd Prodigalus, heddyw wedi myn'd yn ddim;
Dacw 'r blaenor wedi trengu, 'drychwch ar y penaf un,
Wedi dodi 'r bwyd a'r ddiod goreu i'w ddinystrio ei hun.