Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tri Wyr o Sodom a'r Aipht.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pwy bleserau 'n awr sydd ganddo? ai nid llais y delyn fawr?
Neu ynte swn y droed rygynog sydd yn jiggo 'r hyd y llawr?
P'un ai gwin, ai sac, ai brandi mae e'n yfed yn ei hynt?
A yw 'n llawen yn y cwmni? ac yn ddifyr megys cynt?

O nage! fe ddarfu hyny, yn lle gwin, euogrwydd trwm
Sydd yn llosgi ei goluddion megys y berwedig blwm,
'Screch cythreuliaid ydyw 'r delyn, dyna 'r dawns mae e'n fwynhau,
Myrdd o 'llyllon sydd yn boenwyr, a thrwy 'gilydd yno 'n gwau.

Dyma'r swper sy iddo heno, brwmstan todd yn danllwyth las,
Bwyta hwnw, hwnw 'n tarddu trwy rwyd-dyllau 'i groen i maes;
Yn lle cymysg pob rhyw licer, yfed llid tragwyddol sydd,
T'w'llwch dudew ellir deimlo, yn lle hyfryd oleu 'r dydd.

Dewch yn gryno, feibion pleser, yma dewch i lan y llyn,
Tros un fynyd gwrandewch ruddfan, gwelwch ddagrau 'r adyn hyn;
Rhowch ffarwel i bob pleserau, rhowch ffarwel, y mae 'n brydnawn,
'Mhen ychydig bach o ddyddiau chwi gewch berffaith daliad llawn."

Mae yn Eden well pleserau, uwch pleserau tan y groes;
Cariad ragor nag mewn natur sydd i wel'd yn angeu loes;
Mwy llawenydd, mwy digrifwch, ffeinach cysur, uwch ei ryw,
Nag a welwyd ar y ddaear, sydd yn mhresenoldeb Duw.


PERCON.— Ond deuwch, bellach, ac adroddwch ychydig am Fidelius y Cristion; canys mi wn y caf ryw bethau, os nid pob peth yn ei fywyd ef, yn hyfryd; ac nid y lleiaf o ryfedd- odau Duw yw cwrdd â Christion yn ngwlad yr Aipht, yr hon sydd erioed yn elynol i bob gwir Israeliad.

CANT.—Fidelius a anwyd yn nhir Canaan; ei fam ef oedd Hittees, a'i dad yn Amoriad, ac yntef ei hun a esgorwyd arno mewn lle digysur, ar ganol y maes; ni thorwyd ei fogail yn y pryd y ganwyd; nis cyweiriwyd ef hefyd â halen; nis golchwyd ef mewn dwfr i'w feddalhau; ac nis rhwymwyd ef â rhwymyn; ac oni buasai i Un ardderchog o nerth, a mawr iawn, a lluosog ei drugaredd ei gael ef yno, darfuasai am dano yn y dydd yr esgorwyd arno.. Ond y Gŵr hwnw a'i hymgeleddodd ef, a'i golchodd, a dorodd ei fogail, ac a'i cyweiriodd â halen, ac a'i dilladodd; ac felly tyfodd ac a aeth yn fawr. Ond pan gyntaf cynyddodd i faintioli, fe drodd, er ei holl driniaeth, yn ddyn pechadurus, fe annghofiodd ei Greawdwr, ac a gofleidiodd bob pechod yn un chwant; fe dorodd holl orchymynion ei DDUW, ac a dreuliodd ei dalentau, gan fyw yn afradlon, nes daeth amser serchawgrwydd a rhad ras i ddirwyn i fyny, ac arfaeth Duw i esgor ar awr o dru- garedd; yna galwodd y nefoedd ar ei ol â llais ag a orfu arno gyda Saul i wrando; fe ufuddhaodd i air y bywyd, ac a