Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tri Wyr o Sodom a'r Aipht.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddaeth adref i fyw dan aden efengyl gras. Ac am ei fod â'i drigfan yn ngwlad yr Aipht, yn gymydog i mi, a'm bod gydag ef yn fynych yn ei dristwch a'i wynfyd, ac iddo yn fynych ddadguddio i mi ei holl feddwl, ni allaf lai na'i osod allan fel y darlun mwyaf cymhwys ag wyf yn adnabod o Gristion, yn ol dull y Testament Newydd; ac O! na b'ai pawb dan yr enw hyny â'u grasusau mor glir, a'u hysbrydoedd mor wresog, a'u bywyd mor hardd a dysglaer a'i fywyd ef. Yr oedd Fidelius yr un dyn o fewn ag o faes; yr oeddwn yn gydnabyddus âg egwyddorion ei grefydd, yn ei brofiadau tumewnol, gwastadrwydd ei fywyd, yn nghyda'i holl weithredoedd o ffydd a chariad ag oedd ef yn eu hymarferyd o bryd i bryd, yr hyn, os caniata Duw, a osodaf allan i chwi, fy nghyfaill Percontator.

PERCON.—O ewyllys fy nghalon; ewch rhagoch.

CANT.—Fe ymneillduodd ei hun yn hollol oddiwrth gyfeillach yr Aiphtiaid ar ei ddyfodiad cyntaf i'w gwlad, ac yr oedd efe a'i deulu ar eu pen eu hunain, heb eu cyfrif yn nghyda'r Cenhedloedd; eto, pa bryd bynag y deuai neb o'r wlad anniolchgar hono i geisio unrhyw gymwynas gan Fidelius, ag y gallai efe ei rhoi heb wneud niwed i neb o deulu y ffydd, nid oedd neb yn fwy ewyllysgar nag ef yn holl dir Ham. Yr oedd efe am wneud daioni i bawb, ond yn benaf i etifeddion Seion. Pa wag hanesion bynag, pa sisial a chelwydd, pa wag glebar, neu arwyddion disail bynag fyddai ar led, ni chawd clywed erioed i un o honynt fyned allan trwy neu o enau Fidelius. Os un terfysg ac ymrafael fyddai yn yr ardal hono—os un cenfigen a drwg ewyllys fyddai gan neb, un yn erbyn y llall, ni chawd ei fod ef âg un llaw na bys ynddo; canys goleuni y nef a ddysgodd ei glust i wrando, a'i dafod i lefaru yn union ffyrdd yr ARGLWYDD; ond ceisiai drwy bob moddion ostegu pob peth annghysurus, a hoff oedd ganddo fod yn dangnefeddwr. Ond byth ni threuliai amser hir, ac ni ddywedai eiriau ofer; a derbyn wyneb fyddai yn mhell oddiwrtho yn y fath gyfeillach: ac yn eu lle byddai symlrwydd, ysbryd heddychlon, geiriau cariad, a datod llid, a rhyw areithiau melus am dragywyddoldeb a'r farn a fydd; yr hyn oedd yn awdurdodol ryfedd i ddarostwng terfysg, gostegu ysbryd gwyllt, ac addfedu dynion i heddychu y naill a'r llall. Rhai prydiau, cyn methu gwneud dyben ar derfysg, Fidelius a wobrwyai y cyndyn haerllug â'i arian ei hun, er mwyn i'r gwan gael llonydd gan ei ddanedd di-drugaredd. Ei fywyd ef oedd annghyffredin a rhyfeddol; ei deulu oedd brydferth, moesawl, a rhinweddol; ei weision a'i forwynion oeddent oll yn hyfforddus, fel yr eiddo Abraham; pan demtid un o honynt i'r radd uchaf, ni chaed clywed llw