Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tri Wyr o Sodom a'r Aipht.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sacramentau, gweddiau a mawl; ond yn benaf mewn rhyw gyfyngder caled, wrth ymdrechu â Duw, fel Jacob; y gofidiau oedd yn agor ei galon i dderbyn gogoniant y nef, ac yn ei ddodi yn felus anfeidrol iddo; yr oedd y fath fwynhad o DDUW iddo fel gollwng carcharor o'i garchar, neu fel yr hwn yr aethai barn marwolaeth drosto, yn cael ei ollyngdod gan y brenin; yr hwyl nefol hon oedd yn ei godi ef uwch swn y byd a'r creadur mor bell, na fyddai yn rhifo yr oriau, na meddwl am dymhorau y flwyddyn; ond yn gyflawn o'r Ysbryd Glân, yn profi y llawenydd annhraethadwy a gogoneddus hwnw sydd yn nefoedd ar y ddaear; ac yn fynych ar ol tymhestloedd o amheuaeth, annghrediniaeth, tywyllwch, cabledd, a phrofedigaethau ereill o eiddo y fall, y byddai yr ARGLWYDD yn gwawrio arno y tymhorau hyfryd hyn, y rhai oedd felusach na goleu y dydd i'r pererin trafferthus a ddyrysodd yn yr anialwch trwy gydol faith y nos; neu y morwr a welo dir yn nghanol ei holl ofnau: dyma ysbryd a wnai ei holl alar a'i annghrediniaeth i droi yn llawenydd.

PERCON.—Y trydydd rhyw o'i brofiadau, bellach.

CANT.—Goleuni rhyfeddol oedd efe yn ei gael rai prydiau; nid yn unig yn ei galon ei hun, i'w hadnabod hi yn well, ond hefyd yn yr Ysgrythyrau, ac o galonau rhai ereill, i adnabod dyben ysbrydoedd dynion, ac i'w chwilio hwynt yn well nag y gallent eu chwilio hwynt eu hunain; fe godai y wawr-ddydd hyn arno yn fynych wrth ymddyddan yn yr eglwys; wrth holi ereill; neu dan bregethau awdurdodol Gair y bywyd; ac wrth ddarllen Gair y ffydd; wrtho ei hun mewn myfyrdodau, gweddiau, ac ymddyddanion yn fynych. Mi clywais ef yn cael cymaint goleuni i ddweyd am ei gyflwr ei hun, ac i holi ereill am eu cyflyrau, fel ag y credodd amryw yn ddiamheuol fod cyflawnder o DDUw gydag ef, ac mai y nef ei hun oedd yn llefaru trwyddo.

PERCON.—Mynegwch y pedwerydd rhyw o brofiadau oedd ganddo.

CANT.—Y rhai hyn oedd ysbryd o gadernid a nerth ag oedd y nefoedd yn roddi iddo wrth raid: cadernid ffydd i gredu yn sicr ei fod ef ei hun yn wir etifedd teyrnas nefoedd; cadernid i beidio llwfrhau a digaloni wrth yr holl wrthwynebiadau ydoedd yn eu cyfarfod, cadernid i ryfela yn erbyn gelynion o fewn ac o faes, ag oedd am ddinystrio ei enaid; yn fyr, cadarnhad o holl wirioneddau yr Ysgrythyr lân; pob addewid, pob bygythiad, pob gair, a phob sillaf; credai y delai y cwbl ag a lefarodd Duw i ben; yr ysbryd hwn oedd fel gwlith yn peri iddo ail wreiddio, egino, blodeuo, a dwyn ffrwyth toreithiog i ARGLWYDD y cynhauaf. Pan y byddai pob gwynt yn ceisio ei chwythu ef yn ol, hwn a'i tynai ef yn