Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tri Wyr o Sodom a'r Aipht.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mlaen, yna ail ymaflai yn fwy bywiog nag erioed. Dyma i chwi rai o'r profiadau tu-mewnol ag oedd ef yn eu cael, trwy ba rai yr oedd yn ymladd ac yn ymdrechu o blaid y ffydd; ac fe ddaliodd yn y mwynhad o'r profiadau hyn, ac yn y bywyd a enwais uchod, yn nghyda choncwest ar ei feiau a'i nwydau, fel y clywsoch, hyd y diwedd; ac a derfynodd ei ddyddiau mewn heddwch. Ac am un peth y cofiaf ef yn fwy nag am ddim arall; sef y difyrwch oedd ganddo i ddyrchafu Tywysog heddwch; nid âi braidd air o'i enau na byddai rhyw gymal o hono yn moli Iachawdwr y byd. Ganwaith y dywedodd fod yr enw IESU fel dil mêl: fe a'i coffâi yn aml ar ol eu gilydd; ac nid oedd efe yn caru pregethau, hymnau, nac un araeth o dduwinyddiaeth, nad oedd yr ARGLWYDD IESU yn cael ei ddyrchafu ynddynt i'r radd uchaf; ni ysgrifenai ef lythyr at gyfaill na pherthynas, na fyddai yn arogli o'r iachawdwriaeth yn ngwaed yr OEN. Angeu y groes oedd prif bwnc ei fyfyrdod. O gyda'r fath felusdra yr oedd efe yn siarad am brynedigaeth dyn! am anfeidrol gariad Duw yn NGHRIST at bechaduriaid truain! a'r ddiangfa allan o drueni i glwyfau Tywysog Iachawdwriaeth ! Dyma i chwi fywyd un o'r rhai agosaf i'r nef ag a welais yn holl ffordd fy ymdaith; ac "fe ymdrechodd ymdrech deg, fe orphenodd ei yrfa, fe gadwodd y ffydd;" ac heddyw rhoddwyd coron cyfiawnder i'w gwisgo iddo, yr hon sydd yn ogoniant ar ei ben yn oes oesoedd.

PERCON.—O! ddedwydd ddyn! gwyn ei fyd ef heddyw! a gwyn ei fyd fyth! Ond y mae fy mlys yn rhedeg yn mlaen, a chwant sydd arnaf glywed pa sut yr ymadawodd â'r byd hwn. Pa gyfoeth adawodd ar ei ol? pa wahaniaeth oedd rhwng ei ewyllys ddiweddaf ef ag Avaritius a Phrodigalus ? Pa hyder, pa sicrwydd, a pha hyfrydwch oedd yn ei enaid ef wrth ymadael? Os gŵyr neb hyn, chwi yw y dyn; am hyny ewch rhagoch.

CANT.—Mi fum mor ddedwydd a bod yn ei dŷ ef y blynyddau olaf o'i fywyd; ac fel yr oedd yn agosau i'r bedd, yr oedd yn agosau i'r nefoedd; ac yr oedd yn meddwl cymaint am ei symudiad, fel yr oedd ei ewyllys ddiweddaf yn barod er ys blynyddau; ond ei fod yn gwneuthur ychydig gyfnewidiad ynddi bob blwyddyn, o ran nid yn unig am fod ei feddianau yn cynyddu neu yn lleihau yn fynych, ond am fod gwrthddrychau ei elusen yn cyfnewid rhai yn marw, rhai yn dyfod i'w olwg o'r newydd yn fwy cymwys; ac fel na byddai achos terfysg ar ei ol ef i neb o'i berthynasau am bethau y byd yma.

PERCON.—A adawodd efe ddim tiroedd neu arian parhaol at y weinidogaeth, ysgolion, gweddw-dai, cynulleidfaoedd, neu