Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/104

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

VI. LLAN YM MAWDDWY.

"Llawn im oedd Llan ym Mawddwy,
Llaw Duw hael a'u llwyddo hwy."
MATTHEW BROMFIELD.
|

"PEN Bwlch y Groes! Hwre! Dyma ni ar y ffordd uchaf yng Nghymru"

Dyna eiriau cyfaill afiaethus pan gyrhaeddasom ben Bwlch y Groes, wedi dringo'r ffordd sy'n dirwyn i fyny drwy gwm hirgul Cynllwyd, ac wedi gadael Craig yr Ogof ddanheddog o'n hol. Nis gwn ai gwir ei ddywediad ein bod ar y ffordd uchaf yng Nghymru, ond yr oedd awyr adfywiol y mynydd, fel gloew win puredig, yn ddigon i gryfhau dychymyg bachgen deunaw oed i ddweyd pethau mwy anhygoel. Eisteddais ar gar mawn llwythog, oedd un o bobl Mawddwy wedi ei adael yno hyd amser cyfaddas i'w lusgo i lawr, ac eisteddodd fy nghydymaith llawen ar ochr y ffordd, er mai