Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/105

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

adeg oer y Nadolig ydoedd. Yr oedd yr awyr yn glir, yr oedd y ffordd yn galed gan rew, ac yr oedd yr haul yn gwenu'n ddisglair ac yn oer ar y mynyddoedd.

Y mae'r olygfa o ben Bwlch y Groes yn ardderchog, haf a gaeaf. Ar un ochr y mae'r Aran frenhinol, ac ar yr ochr arall y mae bryniau afrifed Maldwyn. O'n holau yr oedd Cynllwyd, o'n blaenau yr oedd caeau gwastad Mawddwy ymhell odditanodd, a mynyddoedd gleision yn ymgodi y tu hwnt iddynt. O'r fan yr eisteddwn i, ni welwn ond y mynyddoedd, yr oedd Mawddwy yn rhy isel wrth eu traed.

Llecyn unig a distaw ydyw, ym mhresenoldeb dwys y mynyddoedd tragwyddol. Ond y mae hanesion am fywyd byr dyn ynglyn ag ef. Clywais ddarlunio'r llecyn ar lawer noson dymhestlog, pan yn hel o gwmpas y tân i wrando ystraeon. Weithiau hanes John Jones Treffynnon fyddai testun yr ysgwrs. Darlunnid John Jones yn gweled gŵr yn Llanuwchllyn a chryman yn crogi oddiwrth reffyn gwellt oedd am ei ganol. Yna gwelem mewn dychymyg yr hen bregethwr yn dringo'r Bwlch, ac yn gweled y dyn a'r cryman yn cerdded o'i flaen mewn lle nad oedd na thy na thwle yn y golwg, lle y cai llofrudd ddigon o amser at ei waith. Yna doi gweddi'r pregethwr, a'i ymgais i dynnu sgwrs â'r angel. Yr oeddym wedi clywed yr hanes laweroedd o weithiau, ond yr oedd yn newydd o hyd. Dro arall hanes y Gwylliaid Cochion gaem; a diwedd eu hanes hwy fyddai desgrifiad o honynt yn golchi eu dwylaw llofruddiog yn y ffynnon ar ochr y Bwlch, ffynnon y mae ei dwfr yn goch hyd y dydd hwn. A dyma'r ffynnon, o fewn ychydig lathenni i'r fan yr eisteddwn,