Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/106

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eto'n goch. Noson wedi hynny caem hanes yr hen bererinion yn penlinio wrth y groes fyddai ar ben y Bwlch. Nid oes na chroes na phererin yma'n awr, ond gwelir ar ffyrdd Llydaw yr hyn fu unwaith ar y ffordd hon.

Ond pe'r arhosem i alw ar gof yr oll a glywsom am hanes a chymeriadau Mawddwy, ai'r dydd gaeaf byrr cyn inni gyrraedd y caeau sydd ar y gwaelod. Rhed y ffordd i lawr yn serth hyd un ochr i'r cwm,-cwm heb waelod iddo ond yr afon wyllt, sydd bron yn rhy bell i lawr i ni glywed ei swn. Yr ochr arall iddi y mae mynyddau uchel a serth iawn, er nad ydynt yn greigiog; weithiau y mae eu hochrau'n wyrddion, dro arall yn ddaear noeth. Ar ol gwlawogydd bydd ffrydiau lawer yn rhedeg o'r mynyddoedd dros y grib uchel acw, a disgynnant yn genllifoedd gwynion dros ael y mynydd. Llawer gwaith y cyffelybwyd hwy yn eu disgynfa i gymylau mwg yn esgyn.

Dyna lais bugail yn adseinio o fynydd i fynydd trwy'r awyr glir,—"Pero, dal dra-a-a-w!" Anaml y gwelais ddau gi tlysach, rhai du a gwyn, yn deall pob goslef yn llais eu meistr. Cerddasom yn gyflym hyd y ffordd, er ei serthed, nes y gwelsom hi'n rhoi tro, ac yn cyfeirio, debygem, yn union i ddannedd y creigiau. Wedi dod yn nes ymlaen, gwelem fod cwm newydd yn agor i'r cwm oeddym ynddo. Daeth amaethwr a llais tanbaid ganddo i'n cyfarfod, a chawsom hanes y fro yn bur gyflawn ganddo. Cwm yr hen sant Tydecho oedd y cwm, a'r afon Llaethnant welem yn disgyn o hono dros y creigiau a than goed. Draw ymhen y cwm hir mynyddig y mae Aran Fawddwy'n edrych yn ddwys ac yn ddu arnom.