Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/109

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Byddai Sion Prys yn mynd ar ei spri weithiau, fel beirdd ereill yr oes honno. A phan ddoi i dref, byddai llu o'i gwmpas, yn gwrando ar ei ffraethineb mewn penhillion difyfyr. Ryw ddiwrnod digwyddai fod yn y Bala, ac yr oedd tyrfa o'i amgylch. Pwy ddigwyddodd ddod heibio ond Price y Rhiwlas, yr ysweinyn yr oedd tra—arglwyddiaethu ar y Bala a'i phobl yn etifeddiaeth iddo. Gorchymynnodd iddo beidio casglu pobl ar y stryd, ond cafodd ateb tafodlym. "A wyddoch chwi," ebe'r yswain digofus, "mai myfi yw Price y Rhiwlas!"

A wyddoch chwi," ebe'r bardd, "mai myfinnau yw Price o Fawddwy!!"

Y mae llawer o hen anibyniaeth ym Mawddwy, er na chryfhawyd ef gymaint gan y Diwygiad ag a wnawd mewn ardaloedd ereill. Y mae llawer o olion hen anibyniaeth Cymru yn arglwyddiaeth Mawddwy, ac y mae lle i obeithio y bydd y court leet yn dal i gyfarfod hyd nes y ceir Cyngor Lleol a Llys Tir.

Drwy lawer canrif, er amser Bleddyn ab Cynfyn a chynt, cadwodd Mawddwy rywbeth tebyg i anibyniaeth. Ni wnawd hi'n rhan o sir yn 1284, fel Cymru i'r gorllewin iddi hi; ni ddaeth yn arglwyddiaeth Normanaidd, fel Cymru i'r dwyrain iddi. Arhosodd yn arglwyddiaeth Gymreig, gan newid ei ffurf i ffurf maenor. Yr oedd ym meddiant ei hen deulu pan aeth Pennant drwyddi yn nechreu'r ganrif hon. Er ei bod wedi colli braint ar ol braint,—meddu maer, rhoi rhai drwg yn y feg fawr, rhoddi trwyddedau i dafarnau.—y mae eto olion o'i hen anibyniaeth ar y sir. Cyferfydd y court leet ddwy waith yn y flwyddyn; a bu hwn ryw