Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/119

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yntau, ac yr oedd wedi bod yn areithio yno ar wleidyddiaeth. Wedi'r ddarlith yr oeddym wedi cyrraedd Pen y Bwlch rywbryd rhwng hanner nos ac un. Yr oedd yn oleu fel dydd. Yr oedd y lleuad yn llawn, ac nid oedd cwmwl ar fron yr awyr dyner, oleu, glir. Draw ymhell, uwchlaw ei gartref ef, gwelem lyn fel gem ar fronnau'r mynyddoedd, yn fflachio gan oleuni'r lleuad lawn. Tybiem mai Llyn Careini oedd. Ond prin yr adnabyddem unlle. Yr oedd pob man fel pe wedi ei droi'n ysbrydol. Yr oedd yr Aran, Craig yr Ogof, yr Arennig, a'r llu y tu hwnt iddynt, dan oleu tynerach na goleu yr un dychymyg. Gallasem dybio mai huno'n drwm yr oedd y mynyddoedd yn y dydd; ond eu bod yn awr wedi deffro, a'u bod yn fyw. "Welwch chwi, Owen," ebe'm cydymaith, "dacw Gymru wedi ei gweddnewid o'n blaenau. Gawn ni'n dau fyw i'w gweld wedi ei gweddnewid mewn gwirionedd?" Thomas Ellis oedd hwn.