Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/118

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fod, ond gŵr cyfoethog yn ymroddi i lenyddiaeth. Ymunodd â'r heddlu er mwyn cael dyrchafiad. Tybiai, ond codi yn uchel yn ei reng, y cai fynd i ymyl llyfrau ac y cai fwy o seibiant. Ond drylliwyd ei gynlluniau pan oedd yn rhoi'r cam cyntaf i fyny. Yr oedd yn yr Abermaw yn disgwyl am y prif—gwnstabl. Tybiodd y byddai'n well iddo gryfhau, os nid llonni, ychydig arno'i hun trwy yfed ychydig gwrw. Rhoddodd rhyw elyn whisci yn ei gwrw, neu ryw wirod niweidiol arall. Cododd y gymysgfa afiach i'w ben, a chollodd bob rheol ar ei feddyliau ac ar ei dafod. Yn lle derbyn ei ddyrchafiad gan ei uch—swyddog, rhoddodd iddo wers lem am ei ddiffygion ei hun. Wrth draethu, nid anghofiodd ddim achlod a glywsai am y prif—gwnstabl. Ni ddaeth dyrchafiad. Yn lle cael ei hun ar y ffordd i ryw ddinas fawr, lle cai dreulio ei oriau hamdden mewn llyfrgell. alltudiwyd ef i Ddinas Mawddwy. Nid oedd ganddo lygad at fawredd natur, na theimlad i'r tyner mewn llenyddiaeth. Ffaith yn unig apeliai ato,—dyddiad llyfr, lliw ei gas, ehangder poblogrwydd emyn, nifer argraffiadau traethawd. O dawelwch Bwlch y Groes, hiraethai am dref boblog; ymysg y grug, hiraethai am lwch llyfrgell. Na, nid mewn dinas fawr yr oedd i dreulio ei fywyd. Cofiaf byth am y siom oedd ar ei wyneb hirgul wrth gyfeirio pedwar bys hir a bawd o ddiystyrwch at y fro hyfryd odditanom, "Ond dyma'r Ddinas ges i." Efe oedd Charles Ashton.

Ar noson loergan fel hon,—adeg lleuad Medi mi gredaf, safwn gyda bachgen ieuanc tal goleubryd. Dod o Ddinas Mawddwy yr oedd