Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/117

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y mae Pen Bwlch Groes yn dod a thair ysgwrs i'm meddwl. Yr oedd y gyntaf yn y bore gyda hen wr, yr ail yn y prydnawn gyda gŵr canol oed, a'r drydedd ar noson oleu leuad, debyg iawn i hon, gyda gŵr ieuanc.

Ryw fore yn yr haf, lawer blwyddyn yn ol, yr oeddwn yn eistedd yn blentyn ar ochr y ffordd ar ben y Bwlch. Wedi dod gyda'r codwyr mawn yr oeddwn. Cawn segura oherwydd nas gallwn eto ladd mawn, er y medrwn eu codi a'u gwneyd. Gwelwn hen berson yn dringo'n araf o gyfeiriad Mawddwy. Yr oedd yn dal iawn, a cherddai'n wisgi a chyflym. Pan ddaeth ataf gwelwn fod ei wallt yn wyn, ond yr oedd ei lygaid yn dduon a chwareus. Eisteddodd yn fy ymyl, gan sychu ei chwys. "Pa un ai chwi ynte fi gafodd y ffordd hwyaf i ddod yma?" gofynnai. "Y mae eich ffordd chwi'n serthach, a fy ffordd i'n hwy," meddwn. "Ffordd yw'ch gair chwi," meddai, "ac nid wtra." A rywsut, llithrasom i son am eiriau. Dywedodd hefyd sut yr oedd gwneyd ffordd hir yn ffordd ferr. "Tynnwch ysgwrs a'r bobl welwch," meddai. "Holwch hwy. Cewch enw rhyw dŷ, neu ryw air, wna i chwi fyfyrio'n hyfryd nes y dowch at rywun arall." Daniel Silvan Evans oedd efe.

Bum yn eistedd bron yn yr un fan ar brydnawn. Yr oedd plismon yn eistedd wrth fy ochr. Ei waith ef oedd cadw'r heddwch ym Mawddwy, ac yr oedd wedi dod i derfyn ei randir i gyfarfod ei gyd-swyddog o Benllyn. Yr oedd wedi ymdaflu i adrodd ei hanes ei hun. Cwynai ar ei ffawd. Beiai ei fam na roddasai addysg iddo. Dywedai mai nid plismon a ddylasai