"Y mae tipyn o gost gyda chladdu mawr fel hyn?"
"Oes; ond byddai dyn tlawd yn sefyll y tu allan i'r fynwent, ac yn dal ei het, a byddai ei gymdogion yn taflu rhywbeth iddi i'w helpu i ddwyn y draul."
"Oni fyddai meddwi mewn hen gynhebrwng?"
"Wedi claddu ai pawb i'r dafarn. Ai un a bowlen a phlat o gwmpas i hel pres; safai un arall mewn cornel i gymeryd yr enwau ar y papur siot. Wedi gorffen dywedai hwn,—Mae'r ty'n rhydd! Yna doi'r ddiod boeth a'r gacen gladdu i mewn. Cwrw a spices ynddo oedd y ddiod boeth, a rhyw dorth fraith oedd y gacen gladdu."
"A ydyw hwn yn myned ymlaen o hyd?"
"Mae meddwi eto, ond dim siotio."
Daeth yr hen wr drwy'r pentref i'n danfon adref, a heibio'r Bryn, plas Syr William Roberts, mewn lle prydferth wrth draed y mynyddoedd. Canmolai Syr William, gan adrodd hen ystraeon bob yn ail. Wedi ysgwyd llaw ag ef, buom yn gwylio ei droediad ysgafn gwisgi drwy'r coed, ac yna gwelsom fod yn rhaid i ni gyflymu er mwyn croesi'r Bwlch cyn iddi dywyllu. Yr oedd Tap yr Eryr yn edrych yn ddu fygythiol o'n blaenau, fel pe'n gwylio dechreu'r ffordd hir a serth sy'n arwain i Fwlch y Groes. Cerddasom yn gyflym drwy'r awyr denau oer, a phan gyrhaeddasom ben Bwlch y Groes yr oedd ffrwd o oleuni'r lleuad ar y creigiau a'r mynyddoedd mawreddog a'n hamgylchynent. Nis gallem siarad â'n gilydd gan syndod ac edmygedd, wrth adael yr olygfa fythgofiadwy o'n hol.