Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/123

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Wedi mynd drwy bentre Llandrillo, a chroesi afonig, yr ydym yn dechreu dringo ochrau'r Berwyn. Cawn ffordd yn myned gydag ochr uchaf clawdd ffriddoedd, ac yr ydym graddol esgyn uwchlaw Dyffryn Edeyrnion, ac yn cael golwg sy'n ymehangu o hyd ar wlad Owen Glyn Dŵr ac ar wlad yr Ysgol Sul. Ond dylid cofio fod Dyffryn Ceiriog erbyn hyn mor hynod am ei Hysgol Sul ac am ei gwerin feddylgar ag ydyw gwlad cryd yr holi ac efrydu'r Ysgrythyrau. Wrth edrych ar fynyddoedd mawr Penllyn draw, daw teyrnged mab Dyffryn Ceiriog i Charles o'r Bala i'r cof,—

"Ei einioes megis coelcerth wen
Oleuodd ein mynyddoedd;
Ond tymor bywyd ddaeth i ben,
Ac aeth y fflam i'r nefoedd;
Bu farw Charles, os marw yw
Ymollwng i orffwysfa,
Ond llosgi mae y marwor byw
Adawodd Charles o'r Bala."

Ond gadewch i ni droi ein wynebau tua'r mynydd, a dacw ben Cader Ferwyn yn edrych arnom. Nid oes fawr o lun ar y ffordd; bu unwaith yn ffordd dramwyol, pan fyddai gyrroedd gwartheg, wedi eu pedoli yn y gwaelod, yn cael eu gyrru ar hyd—ddi i farchnadoedd Lloegr. Heddyw y mae unigedd mawr. Gellid treulio dyddiau yma heb weled neb ond defaid ac adar y mynyddoedd. Rhedyn a grug,—ceir hwy yma mewn gwyrdd a choch nad oes eu tlysach yng ngerddi'r de. Nid ysblander hyf sydd yn eu lliwiau hwy, ond tynerwch gostyngedig purdeb