Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/124

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a mawredd y mynydd. Y fantell Fair euraidd fechan, ceir hithau'n gwenu oddiar lawer llechwedd o laswellt byrr a gwyrdd. Mae pob peth yn fawreddog, pob peth yn wylaidd, pob peth dan ddistawrwydd nerth yma. Nid yw rhuthr y storm ond swn bychan byrr ei hoedl dros y mynyddoedd mawr, y tawelwch distaw yma sy'n rhoi syniad i ni am wir gadernid.

"Clywir llais y dymhestl gref,
A chwiban y corwyntoedd,
Rhua croch daranau'r nef,
Ond huno wna'r mynyddoedd."

Bum yng nghanol storm yn y grug, ac yr oedd yn fawreddog iawn. Ond tawelwch hirddydd haf sydd ar y mynyddoedd heddyw. Y mae ambell lais er hynny. Weithiau croesem ffrwd o ddwfr glân grisialaidd, yn dwndwr ac yn chwerthin wrth lithro dros y graig. Dro arall clywem fref dafad, ac ar ddamwain adlais cri uchel o'r gwastadedd odditanodd. Ond dacw ehedydd bach, yr aderyn y mae Ceiriog mor hoff o ganu iddo, yn codi'n uwch uwch i'r awyr lâs, ac yn tywallt nodau melus i lawr. Ac onid yw melusder y nodau hynny yn y gân,—

"Clywch, clywch foreuol glod,
O fwyned yw'r defnynnau'n dod
O wynfa lân i lawr.
Ai mân ddefnynnau cân
Aneirif lu ryw dyrfa lân
Ddiangodd gyda'r wawr!

"Mud yw'r awel ar y waun,
Brig y grug yn esmwyth gryn;