Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/126

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ar fin y mynydd ganwyd ef,
Ac fel yr hedydd rhyngo a'r nef
Fe ganodd lawer anthem gref,
Lle nad oedd carreg ateb."

Wrth fynd i lawr i gyfeiriad y dyffryn, mae adgofion am ganeuon Ceiriog yn lliosogi. Onid dyma'r olygfa oedd o'i flaen pan yn breuddwydio yn "y gwely o Gymru,"—

"Ar fawn dolydd Ceiriog mae'm pen,
A'm traed a gyrhaeddant Lanarmon;
Ac un o bob ochr im' mae
Moel Sarffle a Phen Cerrig Gwynion!"

Wedi hir daith dyma ni yn y caeau, ac y mae ffordd rhwng dau wrych yn newid hyfryd ar ol blino bron ar brydferthwch eangderoedd y mynydd gwyllt. Awn heibio capel Llywarch; dacw Ddolwen ar y dde, cawsem groesaw mawr yno pe amser i droi, ac ysgwrs am hanes y byd, ac am gynnwys y Faner; y mae'r Sarffle yn rhywle yn ymyl, gyda'i hadgofion am hanes crefydd y dyffryn.

Yn y man down i bentref Llanarmon Dyffryn Ceiriog. Ar y dde y mae Nant y Glog, ac yno y mae cartref tri Richard Morris. I ddau o honynt hwy y mae Dyffryn Ceiriog i ddiolch am lawer o'i ddiwylliant a'i feddylgarwch, a da gennyf glywed fod yr ŵyr yn meddu gallu a dylanwad y tad a'r taid. Yr oedd y Richard Morris adwaenwn i, y canol o'r tri, yn un o'r gwŷr mwyaf galluog a mwyaf dymunol a adwaenais erioed,—gŵr teilwng i fod yn dywysog