Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/127

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwlad oedd. Y mae Migin yn ymyl; y mae'r gŵr yn frawd i wr Pen y Bryn. Os hoffwn droi yno, cawn luniaeth i'n nerthu i ddringo'r bryn. "Na, gwell i ni fynd yn ein blaenau."

O'r gore, trown ar y chwith, a dechreuwn ddringo'r bryn. Yr ydym yn rhy flinedig i edrych ar y dyffryn,—cawn ei weled yfory wedi dadluddedu. Y mae'r ty'n union fel y darlunia John Thomas ef. Yr oeddwn wedi gweled y gŵr o'r blaen, yn chwilio am hesbwrn gollasid, ac wedi gwneyd fy meddwl i fyny ei fod yn un difyr ac—ond cyn i mi gael dweyd wrthych ddim o'i hanes, dyma ef yn ein cyfarfod. Y mae gwên ar ei wyneb o hyd, y mae'r llygaid duon yn llawn o chwerthin at yr ymylon bron bob amser, ac wrth ysgwrsio ag ef ar hyd y mynyddoedd, yn fwy na thrwy ddim arall, y deuais i i ddeall mwyaf ar y teimladau roddodd fod i rai o ganeuon perffeithiaf Ceiriog. Mae Mrs. Hughes yn nith i Geiriog, a hi sy'n awr yn hen gartref y bardd. Pryd o fwyd mewn ty croesawgar yn Nyffryn Ceiriog,—y mae pob ty yn groesawgar yno o ran hynny, a chwsg ar ol crwydro hyd y mynyddoedd,—dont yn ol mewn adgof i ddadluddedu'r meddwl wedi llawer adeg o orlafur a phryder. Cawn olwg ar rai o bobl Llanarmon,—hwy ddarlunnir yng nghaneuon Ceiriog. Ond gadewch i ni orffwys heno, ac adlais ambell gân am y mynydd yn dwyn breuddwydion esmwyth,—

"Hen fynyddoedd fy mabandod,
Syllant eto ger fy mron;
Wele fi yn ail gyfarfod
Gyda'r ardal dawel hon;