Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/132

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

VIII. BRYN MELYN.

YMYSG holl gartrefi Cymru nid oes, mae'n bur debyg gennyf, gartref mwy mynyddig ac anghysbell na chartref J. R. Jones o Ramoth. Saif mewn cwm crawc-welltog digoed, ar gyrrau'r mynydd-dir mawr unig sy'n gorwedd rhwng cymoedd Meirion a bryniau hyfryd Maldwyn; ac erbyn heddyw nid oes ond y Bryn Melyn ei hun yn gartref pobl yn y cwm hwnnw. Bu Nant yr Eira, bwthyn bach eithaf clyd, yn gartref bechgyn cryfion a genethod gwridog; ond nid ydyw heddyw ond beudy neu furddyn ar fferm enfawr. Dywedir fod melin yn y cwm unwaith, a danghosir ei holion yn Nant y Tryfel; ond nid oes neb yn cofio dim o'i hanes. Ychydig yn uwch i fyny na'r Bryn Melyn a Nant yr Eira, y mae olion peth a elwir yn Eglwys Wen, a dywedir ar lafar gwlad fod y