Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/133

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fangre, sydd mor unig heddyw, unwaith yn gyrchfan llu. Bwthyn, melin, eglwys,—y maent oll yn adfeilion; ac nid oes drigle dynion yn y fan ond Bryn Melyn yn unig.

Pe cymerem ffordd drol Bryn Melyn o bentrefydd Llanuwchllyn, nid mewn dwyawr, os mewn tair, y cyrhaeddem y fan. Y mae'r ffordd yn drom iawn am y darn cyntaf, ac y mae'r golygfeydd yn rhai demtia'r pererin i aros ac eistedd o hyd. Ond y mae llwybr byrrach. Newydd adael Pont y Pandy, troer dros gamfa ar y chwith, a dringer llwybr Cae'r Ceunant. Wedi cyrraedd y gamfa ganol edrycher vn ol ac ymlaen ar ardaloedd Llanuwchllyn. Gofynned yr ymdeithydd iddo ei hun a welodd le mor hardd yn unlle, ac atebed yn onest na welodd erioed. Ymlaen y mae'r Aran yn ymgodi'n fawreddog y tu hwnt i geunant rhamantus; yn ol y mae'r haul, hwyrach, yn goreuro'r Arennig a'r mynyddoedd heirdd sy'n gorwedd y tu hwnt i Gastell Carndochan.

Toc cyrhaeddir ffordd Cynllwyd, a phentref bychan gwasgarog fu unwaith yn fwy, o'r enw Pen Rhiw Dwrch. Yma clywyd llais soniarus "mab y Bryn Melyn" yn pregethu'n rymus lawer gwaith. Awn ymlaen, a'r Aran o'n blaenau o hyd, nes dod at bont a phentref arall,—na, nid oes ond dau dŷ lle y bu pentref dedwydd gynt, ac yma trown o'r ffordd, gan ddilyn yr afon ar ein chwith. Yr Afon Fechan yw hon, ac y mae Bryn Melyn ar y llechwedd uwch ei phen i fyny ymysg y mynyddoedd acw.

Wedi gadael amaethdy'r Afon Fechan o'n hol, nid oes ond afonig a mynydd a rhos i'w gweled. Ambell i dro, wrth gerdded y llwybr hir mynyddig, gwelwn gopa'r Aran yn ddu dros