Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/134

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y gefnen o rosdir sydd ar y dde; ond y rhan amlaf, ni welir ond y cwm ei hun. Mynydd wedi ei bori'n llwm fel carped ydyw, a'r Lledwyn pengrwn yn edrych arno dros y rhedyn sydd ar ei fron. O y mae'n lle dedwydd yn yr haf! I ti, ddarllennydd, efallai ei fod yn oer ac unig; ond pe buaset wedi treulio dy febyd ynddo, nid oes lannerch yn ein dyffrynnoedd mwyaf clodfawr all gymharu a'i dlysni gwyllt. Nid oes goeden yn y golwg mae'n wir; ond mor lân yw dwfr yr afon ac mor adfywiol yw lliwiau'r rhedyn a'r brwyn! Dyma lygad y dydd gyda'i wyn a'i goch, dyma'r fantell Fair fechan euraidd; a dacw'r ehedydd yn codi codi i'r awyr las ddofn uwchben. Dyma "ffynnon tan y garreg,"—bum yn hiraethu am ei dwfr melus mewn afiechyd mewn gwlad bell; dyma lecyn tawel Pwll Cynhybrvd, a llawer dadl fu ymysg y bugeiliaid pa un ai Pwll Cynhebrwng ynte Pwll Cynnar Bryd yw gwir ystyr yr enw.

Erbyn hyn y mae'r Bryn Melyn yn y golwg, yr ochr arall i'r afon. Y mae talcen y ty atom, ac y mae hanner cylch o goed teneu—frig o'i amgylch i'w amddiffyn rhag gwynt yr Aran. Toc dyma ni dan gysgod y Lledwyn, ac ar gyfer y ty. Saif rhyw hanner y ffordd i fyny'r bryn, a thrwy ei goed gwyrddion gwelwn ben brenhinol yr Aran a gwyneb daneddog Craig y Llyn. Disgynnwn i lawr at yr afon, a chroeswn hi dros bompren. Y tu ol i ni'n awr, y mae amryw lwybrau hirion yn arwain i fyny i borfeydd y defaid ac at y pabwyr a'r mawn. Dacw'r corlannau hefyd, ac olion "melin" Nant y Tryfel. Ychydig oddiwrth yr afon y mae carreg, ar lan nant sydd yn rhedeg oddiwrth y ty, a elwir yn "bulpud John Ramoth." Y mae rhyw