Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/135

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ffermwr trafferthus wedi saethu darn o honi i ffwrdd; ond y mae'r lle safai'r pregethwr, pan nad oedd ganddo gynulleidfa ond defaid, yno eto.

Dringwn yr allt, a deuwn at y ty. Dyma ni yn y buarth, ar gyfer y ffordd sydd yn arwain i fyny i'r caeau. Y cyntaf peth welwn yw'r hen dŷ,—hen gartref y pregethwr,—wedi ei droi erbyn hyn yn helm drol a beudy. Yr oedd coed o'i ol ac o'i flaen, i'w gysgodi rhag gwynt yr ystorm a rhag gwynt miniog y dwyrain. Y mae'r ty newydd ychydig yn uwch i fyny, a'i lond o blant dedwydd iach fydd, gyda bendith, yn gaffaeliad i'w gwlad.

Bu llawer tro ar fyd er yr amser y bu J. R. Jones yn chwareu'n blentyn o amgylch y ffermdy unig hwn, ac y mae'r Bryn Melyn yn fwy unig nag erioed. Yn lle hel at eu gilydd i ymryson canu penillion, fel yn ei amser ef, tynn y bechgyn i'r pentref i bensynnu ac i lygadrythu wrth yr oriau. Ni welir lluoedd yn cario mawn o'r mynydd acw fel cynt; glo sydd ym mhobman, a grat gwag pan fydd glowyr ar y streic. Ac ni welir tyrfa'n dod o babwyra o Fwlch y Pawl mwy, i bilio'r pabwyr glân ar hirnos gaeaf; gwell gan yr oes hon ganwyll ddime goch—felen hell. Pe buasai J. R. Jones yn fyw, hawdd y gallaf gredu y codasai ei lais yn erbyn ein bywyd, pan mai uchelgais y llafurwr yw gadael ei gartref iach ar fron y mynydd, ac ymdyrru i ryw bentref lleidiog llaith wedi ei osod mewn pwll ger gorsaf ffordd haearn; pan mai uchelgais llawer gwraig yw treulio holl ddyddiau ei bywyd i chwedleua hyd y pentref, a chael pob peth o'r siop, a byw ar goel. Er fod y ffordd i'r ysgol yn hir, ca'r plant fagwyd mewn