Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/137

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Treuliodd J. R. Jones ei fywyd mewn gwlad fynyddig fel hon. Ni feddyliodd am ddefnyddio ei athrylith i ennill cyfoeth nac esmwythyd y byd hwn. Gallasai, pe wedi meddwl am hynny, dynnu maeth o ddyffrynnoedd brasaf Lloegr. Gallasai ymhoewi yng ngwychder ystafelloedd cyfoethogion ein trefydd mawr. Ond ym Meirion fynyddig yr arhosodd ar hyd ei oes, mewn caledfyd a thlodi. Pan oedd ei eiriau yn fywyd i ddynion, cariai fawn ar ei gefn o'r mynydd fel cynt.

"Mewn tlodi,"—na fu erioed. Cynysgaeddodd y nefoedd ef â'i chyfoeth ei hun, a bu J. R. Jones yn hael fel tywysog gyda'r cyfoeth hwnnw. Y mae ambell un nas gellir meddwl am dano fel dyn tlawd, er nad oes ganddo ddimau yn banc, ac er na wyddis ar y ddaear beth y mae'n gael i ginio. Y mae rhyw gyfoeth yn ei fywyd a'i feddwl sydd yn ei godi uwchlaw tlodi bach a chyfoeth bach y byd hwn.

Tra'r oedd pobl ereill yng Nghynllwyd yn ymroi gorff ac enaid i gasglu aur, yr oedd J. R. Jones yn cyfoethogi ei feddwl. Mewn un ystyr yr oedd y dyn cyfoethocaf ar yr holl fynyddoedd, a thlawd druenus yn ei ymyl oedd perchennog enaid bach crebychlyd a mil o ddefaid. Beth bynnag ddysgo ein bechgyn yn ein colegau, dysgent y gall bywyd meddylgar ar y mynyddoedd fod yn llawnach a chyfoethocach na bywyd o ymgripio am arian a chlod.