Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/138

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ADFYFYRION

WRTH ddod yn ol i'r fan y cychwynnais ohono, y mae arnaf hanner ofn clywed cwestiynau,—I ba ddiben yr ysgrifennaist y llyfr hwn? Onid yw pob mynydd yr un fath a mynydd arall? Onid yw pob dyffryn yn debyg i ddyffryn arall? Onid daear yw'r oll? A phaham y tybi fod yr hyn a weli, a'r hyn a deimli, o'r dyddordeb lleiaf i neb arall?

Pe rhoddid fi ar fy mhrawf fel hyn, meiddiwn furmur rhyw ddwy esgusawd cyn pledio euog.

Dyma un. Y mae Cymru y wlad fwyaf swynol dan haul i Gymro deithio ynddi, ac yn un o'r gwledydd lle teithia leiaf ynddi. Ymhob rhan o Gymru, y mae taith ddifyr ac adfywiol ac addysgiadol yng nghyrraedd pawb. Ac eto tynn llawer un i wlad bell i dreulio ei wyliau, gan adael rhagorach pethau,—a phethau y medrai eu deall, yn ei ymyl. Bu adeg pan oedd yn ddigon naturiol i rai gwyno fod cylch y Cymro'n gyfyng. Fel arall y mae'n awr. Gwn am ugeiniau fu ar faes Waterloo, a rhai fu yng Ngwlad Canan, na fuont erioed ym Mhant y Celyn ac na wyddent ym mha le mae Dolwar.

A dyma esgusawd arall. "Mae'r oll yn gysegredig,"—pob bryn a phant. Mae'n gwlad yn