rhywbeth byw, nid yn fedd marw, dan ein traed. Mae i bob bryn ei hanes, i bob ardal ei rhamant. Mae pob dyffryn yn newydd, pob mynydd yn gwisgo gogoniant o'i eiddo ei hun. Ac i Gymro, nis gall yr un wlad arall fod fel hyn. Teimla'r Cymro fod ymdrechion ei dadau wedi cysegru pob maes, a fod awen ei wlad wedi sancteiddio pob mynydd. A theimlo fel hyn a'i gwna'n wir ddinesydd.
"Mae'r oll yn gysegredig. Mae barddoniaeth
Nefolaidd ar yr holl fynyddoedd hyn.
A bu,—goddefer y gwladgarol nwyf,—
Bu llawer brawd a chyndad hoff i mi,
Na edwyn neb eu henwau mwy na'u clod,
Ond taweledig rith yr oes a'u dug,—
Ar hyd y bryniau hyn ar lawer nawn
Yn canu neu yn wylo fel y caed
Profiadau bywyd. Ninnau gyda hwynt
Adawn gymunrodd o adgofion per,
Rhyw anadliadau a myfyrion syn,
I'r awel dyner eu mynwesu fyth.
—————————————
CAERNARFON:
CWMNI'R CYHOEDDWYR CYMREIG (CYF.),
SWYDDFA "CYMRU."