Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Tro trwy'r Gogledd.

I. BLAENAU FFESTINIOG.

NID pob ardal weithfaol fedr dynnu segurwyr diddaioni fel myfì a'm tebyg iddi. Fel rheol, nid cyrchfan hoff i ni ydyw cartref meibion llafur. Gwell gennym ryw ymdrochle ar fin y môr, neu ryw ffynnon rinweddol ymhell yn y mynyddoedd, lle cawn ein syrio a bowio inni, heb neb yn son am hawliau'r gweithwyr ac heb neb yn cofio am adnod sy'n dweyd mai trwy chwys ei wyneb y mae dyn syrthiedig i fwyta ei fara. Ond y mae Ffestiniog mor brydferth, er mai mangre llafur ydyw, fel y gwelir ninnau'n segura ymysg y chwarelwyr