Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yno, fel gloewod byw ymysg gwenyn. Nid oes yno fŵg budr ac aflan i dduo popeth, y mae'r awyr mor glir a'r grisial, neu'n llawn o gymylau newydd eu geni o'r môr. Nid oes yno ysgubion a gwenwyn yn hyllu'r afonydd, y mae'r dwfr yn loew ac yn iach wedi rhedeg trwy Ffestiniog. Y mae'r lle'n bell ac yn wlawog, ond y mae'n lân ac yn brydferth ac yn iach. Os gwaith, rhowch waith y creigiwr neu'r chwarelwr i mi.

A fuost ti erioed, ddarllennydd, yng ngorsaf Arennig? Nis gwn paham y gwnaeth y cwmni beth mor brydyddol a rhoddi enw'r mynydd ar yr orsaf, nid ydyw'n beth tebyg i'w dull hwy. Y mae'n debyg nad oedd tafarn na phenty'n ddigon agos, ni welent unlle y gallai hyd yn oed y mwyaf digydwybod ddweyd ei fod yn ddigon agos i roddi ei enw ar yr orsaf. Yn wir, nid wyf yn siwr a oedd unlle yn y golwg o gwbl; gallai'r hen Arennig chwerthin mewn gwawd wrth edrych i lawr arnynt.

Da y galwyd yr orsaf yn Arennig. Dros adeiladau'r orsaf gwelir creigiau'n codi fel adfeilion rhyw gaerau mawr; a'r ochr arall, rhyngom a bryn caregog ac eithinog, y mae rhosydd digysgod, a ffordd Ffestiniog yn rhedeg yn uniawn trostynt rhwng dau fur. Son am unigedd, meddyliwch am un newydd adael y Strand o'i ol, man prysurdeb y cenhedloedd, ac yn teithio rhwng yr Arennig a Thraws Fynydd. Gwel gymoedd gwyrddion gwylltion ym mhob cyfeiriad, gydag ambell das mawn du rhyngddo a'r goleu; a buan y daw i'r penderfyniad fod gan Amnodd gystal hawl ag unlle i alw ei hun yn ben draw'r byd. Yn yr ardal