Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hon, gellid crwydro am ddyddiau heb weled neb ond y defaid a'r cornchwiglod. Mor hyfryd unig ydyw, hyd yn oed o'i chymharu a Thraws Fynydd! Yn fy mhoced yr oedd papur newydd yn dweyd beth wneid yn y Senedd un o'r gloch y boreu hwnnw, a pha beth wneid yn Siam y prydnawn cynt. Ond nid oes brysurdeb gwifrau trydanol yn yr ardal fynyddig hon; nid oes yma neb yn malio pen pabwyren am Siam, nac am y Senedd ychwaith. Nid ydyw yr ychydig fugeiliaid sydd ar y mynyddoedd yn gweld holl brydferthwch y lle, ychwaith. Tybed fod Rhagluniaeth wedi rhoddi rhywun rywbryd mewn lle wrth ei fodd? Y mae'r trefwr yn hiraethu am unigedd y mynydd, y mae'r mynyddwr yn hiraethu am ambell ffair; a phawb yn cwyno ar ei le. Faint bynnag o feiau roddir ar ein cefnau, gallwn gymeryd cysur o hyn,— rhoddir mwy o feiau ar Ragluniaeth nag ar y gwaethaf o honom.

Ond dyma lyn Tryweryn, a chawod lwyd yn dod i daenu ei haden drosto. “Mae hi'n bwrw gwlaw yn Ffestiniog bob amser,” oedd sylw un o'm cyd-deithwyr. Ceryddais y dyn a wnaeth y sylw am dynnu casgliad cyffredinol oddiwrth rhy ychydig o enghreifftiau; ond maddeuais iddo pan glywais y gwlaw yn taro at fy nghroen cyn nos. Distawodd pob ysgwrs pan ddaethom i olwg Cwm Prysor; a phan roddodd y tren dro i fynd dros bont hir, cawsom olwg ardderchog ar yr Arennig. Nid oedd fy meddwl yn berffaith esmwyth, wedi darllen hanes llawer o ddamweiniau, pan oedd ein cerbyd ysgwydedig yn chwyrnellu hyd ael y mynydd, heibio