Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i lawer trofa serth, ac uwchben dyfnder mor fawr. Dywedodd palff o yriedydd rhadlon wrthyf, gyda gwên fel lleuad lawn, fod y tren wedi mynd oddiar y rheiliau unwaith, ac yntau hefyd.

Gwelsom Gastell Prysor, neu yn hytrach y bryncyn y safai arno, yn codi o'n blaenau; a thu hwnt iddo wele ddyffryn oerlwm agored Traws Fynydd. Daeth darn o englyn, oddiar fedd genethig, i'm cof,—

"daear wleb
"Traws Fynydd tros fy wyneb."

Hwyrach mai hwn, a chof am fedd un o gyfoedion fy mhlentyndod, oedd wedi gwneyd i mi dybied mai lle gwlyb ac oer oedd Traws Fynydd. Y mae ereill dan fwy o gamargraff na minnau, oherwydd ebe un o'r cwmni,—

"Traws Fynydd, hen le hyll,
Dynion cam yn torri cyll.”

"Wele'r dynion, lle mae'r cyll," ebe un arall mewn gwawd. Ond yr oedd y ddau'n gwneyd cam â Thraws Fynydd. Y mae ehangder yr ardal yn gwneyd iddi edrych yn fawreddog, y mae trumau mynyddoedd Ardudwy'n brydferth iawn, ac i lawr i gyfeiriad Eden y mae lleoedd mor ramantus ag unrhyw leoedd yng Nghymru. Cyn i mi gael cyfle i son am ei ffordd Rufeinig a'i beirdd yr oeddym wedi cychwyn tua Maentwrog. Gadawsom wlad lom agored a daethom i wlad y coed a'r cerrig a'r rhedyn tal, o