Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wlad Rhys Cain i wlad Edmwnd Prys. Toc daethom i wlad ardderchog o fynyddoedd, ac yr oedd y niwl a'r gwlaw a'u toai yn gwneyd iddynt ymddangos yn uwch ac yn fwy nag oeddynt. Hawdd y gallwn gredu mai gwlad y bardd a'r swynwr yw hon. Bron na fedrem weld y cafn dŵr yn mynd dros y ffordd, lle y gwnaethai Edmwnd Prys i Huw Llwyd Cynfel sefyll dan y diferion pan yn mynnu mynd adre o'r dafarn yn rhy gynnar. Hoffaswn weld y ffenestr fach, ac Edmwnd Prys yn estyn ei ben allan o honi, yn mwynhau yr olwg ar drallod Huw Llwyd,—hyd nes y teimlodd fod bardd Cynfel wedi gwneyd i gyrn dyfu ar ei ben yntau, ac nas gallai dynnu ei ben yn ol o'r ffenestr gan y cyrn.

Toc daeth Llan Ffestiniog i'r golwg, ar fryn, a mynyddoedd o'i hamgylch. Dywedai un o'i thrigolion wrthym eì bod yn debyg i Jerusalem, ond cyfaddefodd na welodd mo Jerusalem erioed. Yr oedd y tren yn troi ac yn trosi llawer, er ysgoi'r glynnoedd dyfnion, ond nid oeddym yn anfoddlawn i aros yng ngwlad Huw Llwyd Cynfael a Morgan Llwyd o Wynedd. Cawsom gipolwg ar "ddyffryn Ffestiniog," lle gwastad fel bwrdd, ym mhell bell î lawr; ac yna dyma ni yn y Llan. Gorsaf brydferth iawn ydyw; yr oedd gwely o flodau gogoneddus ynddi, a thros eu lliwiau amryliw hwy gwelem y gadwen o fynyddoedd gleision ysgythrog.

Wrth fynd ymlaen i'r Blaenau, cawsom aml olwg ar y dyffryn odditanodd. Braich o'r môr oedd hwn unwaith, yn estyn i mewn rhwng traed mynyddoedd serth, ond y mae'r afonydd,