Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

trwy gludo daear nos a dydd iddo, wedi er wneyd yn ddyffryn gwastad. Beth bynnag ydyw ystyr y gair Ffestiniog, y mae ystyr y gair Blaenau yn amlwg. Y mae yng nghilfach y mynyddoedd, ym mlaen eithaf y cwm. Y mae ffurf y pentref yn hanner cylch, a'i wyneb, wrth gwrs, i gyfeiriad y dyffryn, a'i gefn at y mynyddoedd a'r chwarelau. Y peth dery ddyn dieithr ydyw glendid y tai a gloewder yr aberoedd dwfr, ac ni bydd yn hir yn gwneyd ei feddwl i fyny i hoffi ac i barchu'r lle.

Wedi disgyn a dewis ein gwesty, cerddasom drwy brif ystryd Ffestiniog. Nid rhyfedd ei bod yn lân, y mae yno gymaint o wlaw a ffrydiau dyfroedd. Peth rhyfedd yw gweld y creigiau'n edrych dros ben y tai ar yr ystryd, ac weithiau'n sefyll, fel rhyw anghenfil mawr, ar ochr yr heol. Yr oedd yno siopau da,—digon o lyfrau a ffrwythau. Ond ychydig o ddarluniau welais,—dim ond oleograph a photograph welid ym mhobman, arwydd weddol sicr nad yw'r celfau cain yn blodeuo llawer. Er hynny y mae gan Ffestiniog ei harlunydd, ond ni hoffwn ddweyd na un ai'r pwyntel ai'r camera sy'n talu iddo. Nid oedd ond ychydig iawn o bobl hyd y stryd, ond clywn swn pîano a chân o lawer ty. Yr oedd pob peth yn berffaith heddychlon a thawel, ac anodd oedd coelio fod pedwar cant a hanner o bobl ar y streic y diwrnod hwnnw. Ni welsom gymaint a ffenestr doredig. Tra'n syllu a meddwl, clywem lais mwyn yn ein cyfarch. Bardd oedd yno, un o feirdd mwyaf gwylaidd Cymru. Hanna o'r un ardal a minnau, ardal y mae ei phlant yn cyfarch eu