Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gilydd lle bynnag y cyfarfyddent. Medrwn ysgrifennu cyfrol am y gwahanol ardaloedd a gwledydd y cyfarfyddodd plant Llanuwchllyn eu gilydd ynddynt, ac am ddulliau hynod rhai o'r cyfarfyddiadau hynny.

Yr oedd y gwynt yn codi, a phrysurasom o gwmni diddan Barlwydon i weled rhyw chwarel. Cymerasom y ffordd sy'n arwain dros y mynydd i ddyffryn Conwy, ac wele grugiau anferth o ddarnau llechi,—y rwbel o chwarelau Oakeley,—o'n blaenau.[1] Arweiniodd llwybr troellog ni fyny hyd fron y bryn llechi, a chyn hir clywem swn peiriannau ac arfau. Yr oedd ein llwybr ni'n dirwyn hyd y fron serth, a phan oeddym ar y cylch olaf ond un wele ben,—nid un cyffredin,—yn ymddangos o'r lle gwastad uwchlaw, ac yn gofyn i ni a ewyllysiem weled rhywbeth. Atebais nad oedd y byd cyn drymed na chai pawb â'i olwg weled. "O'r gore, ynte," meddai, "y fi ydi'r geid." Dringasom i fyny ato, a dechreuodd ein hwylio o gwmpas, mewn dull difrifol a doeth iawn. Aeth a ni i adeilad eang, a danghosodd y chwarelwyr wrthi'n hollti llechi, ac yn eu naddu wrth

gyllell peiriant. Yr oedd pawb yn hollol ddistaw, ond y peiriannau a'r geid. Ac mewn rhyw

  1. Nid wyf yn adrodd dim ond a welais ac a glywais yn Ffestiniog y diwrnod hwnnw. Os mynni wybod hanes Ffestiniog a'i chwarelau darllen lyfr manwl a dyddorol G. J. Williams, —"Hanes Plwyf Ffestiniog," (Hughes a'i Fab, Gwrecsam).