Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dôn ddistaw leddf y siaradai'r geid hefyd, fel pe buasai pob peth ddywedai yn ddirgelwch pwysig a mawr. Esboniodd i ni fel y mae'r chwarelwyr yn partneru,—rhai yn y graig, rhai yn hollti, a rhai yn naddu. Yr oedd golwg brydferth ar y rhes hir o chwarelwyr gyda'u gwynebau meddylgar glân, a phawb a gwên groesawgar wrth edrych arnom yn gwrando ar eiriau dewisol y geid. Wedi dod allan, gofynasom beth arall oedd i'w weld, a chawsom mai adeiladau tebyg i'r un y daethom o hono. Ond yr oedd arnom eisiau mynd dan y ddaear, i weld y creigwyr, a'r gweddill o'r un cant ar bymtheg sy'n gweithio yn y chwarel hon. Nid oedd caniatad i fynd, hyd yn nod i frenin. Deallasom wedyn y buasai 'n hawdd i ni weled y chwarel i gyd pe wedi gofyn yn briodol; ond ni chawsom gan yr hen arweinydd prudd-ddigrif ond hynny o wir a wnai les i ni. Felly yr oedd yn rhaid i ni dreio chwarel arall.

Ar ein cyfer, dros y ffordd oedd i lawr ym mhell odditanom, gwelem Chwarel y Llechwedd yn drom ac yn ddistaw o'n blaenau. Cyn cychwyn yno, cawsom ymgom â'r geid wrth ymadael. Trodd ddau lygad dwys arnom, nes oedd y ddau'n cyfeirio'n syth i ryw un pwynt ym myw ein llygaid ninnau. Dywedodd fod ysbryd y chwarelwr yn un anibynnol iawn. Clywodd ffrwgwd rhwng goruchwyliwr a chwarelwr yn y fan lle safem. Dywedodd y goruchwyliwr, dyn caredig ond gwyllt, fod y chwarelwr wedi gwneyd trosedd, a fod yn rhaid iddo ofyn ei bardwn. "Tr-trosedd," ebe'r chwarelwr, "naddo; rhyw opiniwn oedd o genno fo; ofynne fo m-mo'i bardwn o b-byth." Yr oedd