Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

priodi cyn dysgu coginio a chadw ty. "Gwneyd te ac agor tinned salmon yw holl gylch eu coginiaeth," ebe hen lanc sychlyd wrthyf. Ond, yn fuan iawn, daw'r ysgolion i wneyd y diffyg hwn i fyny, os yw'n bod.

Beth bynnag arall ddaw o Ffestiniog, daw rhai o athrawon ac athrawesau goreu Cymru. Gwyn fyd na ddeuai mwy ohonynt. Lle Cymreig effro fel hwn ddylai gyflenwi ein hysgolion ag athrawon.

Ac wrth gofio, adeg y streic oedd. Clywais feirniadu doethineb y chwarelwyr, ond ni chlywais ond un farn am eu calonnau. Sefyll dros eu gilydd y dywedai pawb eu bod, ac yr oedd cydymdeimlad pawb gyda hwy. Yr wyf yn sicr iawn o un peth, y mae eu hymddygiad wedi bod yn foneddigaidd ac yn Gristionogol trwy'r amgylchiad cyfyng. Nid yn ofer yr adeiladwyd llu capelau Ffestiniog. Yr oedd pedwar cant a hanner, mwy neu lai, o ddynion ar y streic y diwrnod hwnnw er ys misoedd, ac yr oedd cydymdeimlad miloedd o'u cydweithwyr ä hwy. Ac eto ni welais filwr na heddgeidwad yn unlle drwy gydol y dydd. Gwelais apêl atynt oddiwrth lowr, mewn papur newydd Cymraeg, i adael eu hemynau, ac i godi eu calonnau trwy ddawnsio a gwamal ganu. Ond yr esboniad goreu ar waith yr Ysgol Sul a'r Seiat yw ymddygiad chwarelwyr Ffestiniog ar adeg streic ac ar bob nos Sadwrn. Nid ofer yw'r ymdrech a wnaed ac a wneir gydag addysg a chrefydd Cymru, tra y cynhyrchir dynion fel y rhai hyn.