Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ar y Cyfandir. Gwn fod llawer o ganmol wedi bod ar chwarelwyr am eu meddwl, a dywed rhai eu bod fel dosbarth yn cael y ganmoliaeth a haeddir gan y rhai goreu o honynt yn unig. Yr wyf yn meddwl y geill chwarelwyr Ffestiniog, fel dosbarth, dderbyn y clod o fod ym mysg gweithwyr mwyaf deallus y byd.

Y mae bywyd moesol Ffestiniog, ar y cyfan, yn iach a phur. Ni adewir i fasnach ladd meddwl, y mae'r llenor a'r bardd yn sicr o gael gwrandawiad. Yn wir, hwyrach y telir rhy ychydig o sylw i'r celfau, yn enwedig daeareg. Diwinyddiaeth yw prif faes astudiaeth Ffestiniog eto, ac y mae'n amhosibl cael gwell diwylliant i'r meddwl na'r diwylliant geir trwy gymdeithasu â "brenhines y gwyddorau." Athroniaeth ar ei goreu ydyw, athroniaeth y ceir golwg ar y natur ddynol o bob gris ohoni.

Am arweinwyr y dylai gweddi Ffestiniog fod. Haearn a hoga haearn; a thrwy eu bod yn gweld cymaint ar eu gilydd, ac yn cael cymaint o fanteision i siarad, y mae dylanwad y chwarelwyr ar eu gilydd yn fawr. Pan symudant, symudant fel un gŵr. Gall arweinyddion doeth eu codi, yn feddyliol a moesol, y naill genhedlaeth ar ol y llall. Y mae'n ddiameu fod Ffestiniog wedi ei bendithio ag arweinwyr meddylgar, grasol, ac uchel eu nod.

Clywais droion fod dynion Ffestiniog yn well na'r merched. "Nid yw'r merched yn cael yr un cyfleusterau i ymgomio, ac i ddadleu cwestiynau, ag a ga eu gwyr," ebe boneddiges wrthyf. Ac eto gwelais amryw gynhadleddau ar gerrig y drysau wrth basio trwy'r heolydd. Dywedwyd fod merched ieuainc yr ardal yn