Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Crwydrasom dipyn dan y ddaear, a'r bachgen a'i ganwyll yn ein harwain; gwelsom ddyfn ar ol dyfn. Yr oedd cadwen ar draws y lleoedd peryclaf, ond clywais am rai cyfarwydd â'r chwarel yn syrthio dros ddyfn neu ddau. Ni welais y creigwyr oedd yn gweithio yn y gwaelod, ond gwelais y grisiau hir sydd yn arwain i lawr atynt, a'r mŵg yn nofio ar wyneb yr agenau uwch eu pen.

Wrth gerdded i lawr o'r chwarel, daeth llawer o bethau i'm meddwl am y bobl welais yn ystod y dydd. Yn un peth, tarawyd fi gan foneddigeiddrwydd di-eithriad y chwarelwyr. Yr oeddynt yn rhy brysur i ddod atom i holi, ond rhoddent bob cynhorthwy i ni o'u bodd os gofynnem am dano. Sylwais eu bod yn garedig ac yn gymhwynasgar iawn gyda'u gilydd, a mynych gyngor gafodd y bachgen a'r ganwyll sut i wneyd â ni er mwyn i ni weld popeth. A phan oeddym yn dod allan o'r chwarel, gyrrodd un o'r chwarelwyr ni yr holl ffordd, er fod y dwfr at ei fferrau. Clywais bobl ddi-addysg a di-ddiwylliant dybient eu bod yn foneddwyr, gyda modrwyau efydd ar eu bysedd, yn condemnio gweithwyr y Llechwedd yn ddi-arbed. Ond yn y chwarelau y gwelais y gwir foneddwyr, a llawer haws fuasai gennyf ymddiried bywyd ac eiddo iddynt nac i lawer sy'n caru ymddangos fel hoffwyr cyfiawnder a hawliau cysegredig eiddo.

Tybiwn hefyd, oddiar yr olwg arnynt, eu bod yn ddynion deallgar iawn fel dosbarth. Ni welais ol syrthni meddwdod ar un wyneb, na'r gwynebau nwydwyllt welais yn hylldremu ac yn gwgu arnaf mewn aml ffatri fawr yn Lloegr ac