Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac ni welem gan y niwl glas-ddwfn ond creigiau a cherrig enfawr ar bob tu. Yr oedd yno un bachgen, a cheg enfawr, fel pe buasai ei ben yn flwch tybaco, yn rhegi nes oedd y creigiau a'r niwl yn diaspedain. Cofiwn am y tyngwyr welodd Bardd Cwsg yn uffern, yn crogi gerfydd eu tafodau oddiwrth greigiau fel y rhai acw.

Rhoddodd ein harweinydd blanc pren sych yn y wagen fach haearn,—ond cofiwn mai nid y dillad oedd oreu yn y boreu oedd oreu erbyn hyn,—ac yna cychwynnodd y gyrrwr ceffylau a ni drwy'r tynel hir dyfrllyd, gan ein rhybuddio i ddal ein pennau i lawr, rhag eu taro yn erbyn talp o graig yn y tywyllwch. Daethom i'r chwarel agored, hynny ydyw, yr oeddym yn gweled y niwl o waelod y twll yr oeddym ynddo. Rhwng yr olwg i fyny ar y niwl a'r olwg ar y mŵg ddoi o'r tanau yn y mynedfeydd tan ddaearol, yr oeddym mewn lle dieithr iawn. Wrth durio odditan y graig yr oedd rhai colofnau wedi eu gadael, rhag i'r mynydd syrthio i lawr. Weithiau cyffelybwn y lle i eglwys gadeiriol ardderchog, a'r pileri duon heb orffen eu naddu. Ond yr oedd y ffaglau a'r gwaeddi'n gwneyd y lle'n anaearol iawn. Symudasom ymlaen at enau un o'r inclines, ac yr oedd y ffagl-fflamau a'r mŵg ddoi o honi yn gwneyd i mi feddwl am eneu annwn. "Gwelais ddau ddyn yn cael eu lladd yn y fan acw," ebe creigiwr o Lanbrynmair oedd yn sefyll gerllaw. Y mae aml ddamwain yn digwydd mewn dyfn fel hwn,—y graig yn tanio neu'r wagen yn rhedeg. Damwain mewn chwarel, ac Angeu yno,—

Mae anadl pawb yn ei fynwes yn crynnu,
A phryder trwy wynder pob gwedd yn llefaru.