Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yw'r lle yn yr haf, daeth y gwlaw fel pistylloedd arnom, ac yr oedd y niwl yn ddigon i'n gwlychu at y croen. Wrth i ni ddisgyn i lawr ni welem ond clogwyni anferth yn hylldremu drwy'r niwl, ond clywem swn peiriannau'n ochain ac yn rhuo yn y dyfnder odditanom.

Yr oedd golwg druenus arnom. Yr oeddwn i wedi rhoi'm dillad goreu am danaf y bore hwnnw, yn erbyn cyngor. Pan welodd rybelwyr Bowydd fi'n dod o'r niwl i lawr atynt, tybiwn y meddylient am iar ar wlaw. Gwaeddodd rhyw hogyn direidus arnom, gan droi ei dipyn Saesneg yn wawd,—"Feri ffein weddar." Y mae'r hen ddyn yn gryf yn y duwiola pan wawdir ef, ond ychydig o ddigllonedd gwrol sydd mewn llipryn o bererin a'r defnynnau gwlaw'n rhedeg i lawr rhwng ei grys a'i gefn. Cafodd y bachgen fwynhau ei dipyn gwawd mewn diogelwch, a disgynasom ninnau hyd y llwybr serth i gwm cul, at enau chwarel. Yr oedd cerbydau bychain yn dod allan o honi, a thoc daeth bachgen o rybelwr atom, i ofyn a allai ein gwasanaethu. Cawsom ef yn ddeallgar ac yn garedig iawn, ac yn arweinydd da. Ond er ei wyleiddied, dychmygem y gallasem ei glywed yntau'n canu,—

"Rhybelwr oedd fy nhaid,
Rhybelwr oedd fy nhad;
Rhybelwr ydwyf finnau,
A'r goreu yn y wlad."

Cyn i ni fynd i mewn, cawsom olwg ryfedd ar y chwarel. Yr oedd y gwlaw'n pistyllio o hyd,